Craig Cwmbychan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:09, 6 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae mynydd Craig Cwmbychan, uchder 1942 troedfedd uwchben lefel y môr, yn edrych dros Cwm Bychan a Betws Garmon. Mae'r mynydd hwn ychydig yn is na chopa Mynyddfor, sydd tua hanner milltir i'r de ohono. Mae Cwm Planwydd ar ei lethr ddeheuol, ac mae Cwm Bychan a Chwm Du yn gorwedd i'r gogledd. Ar ei gopa mae carnedd gron hynafol sydd yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd (2300CC-800CC). Credir ei bod yn safle gladdu ac er bod rhywrai wedi bod yn chwilio yno yn y gorffennol, gobaith CADW yw y gall fod tystiolaeth bwysig yno o hyd. Mae'r garnedd yn sefyll tua metr o ran uchder ac 11 metr ar ei thraws.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Ancient Monuments, yn dyfynnu CADW [1], cyrchwyd 8.10.2021