Ysgol Babanod Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:17, 1 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Ysgol Babanod y Groeslon ym 1926 mewn adeilad newydd ym mhentref Y Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer dosbarthiadau Safon 1 a 2 a oedd gynt yn Ysgol Penfforddelen. Roedd adeilad yr ysgol honno'n gynyddol anaddas a gorlawn, a phenderfynodd Rheolwyr yr Ysgol greu ysgol i'r babanod yn Y Groeslon, ac un arall yng Ngharmel. Roedd rhieni'r Groeslon wedi mynegu eu bwriad i ymatal rhag anfon eu plant i adeilad Penfforddelen hyd nes y gwnaed gwelliannau i'r cyflenwad dŵr a'r toiledau. Symudodd Miss S.A. Gray, yr athrawes ar fabanod Penfforddelen, i'r ysgol newydd fel pennaeth. Roedd hi wedi bod ym Mhenfforddelen ers 1895 - merch yn wreiddiol o Lanelli ydoedd. Un o'tr plant cyntaf i gychwyn yn yr ysgol newydd oedd Mr Leslie Williams, a fu wedi iddo dyfu i fyny yn bostfeistr y pentref am flynyddoedd lawer. Mae ganddo atgof o ba mor lân oedd yr adeilad newydd, ac o'r gwersi byd natur yng ngae'r ysgol.

Ymddeolodd Miss Gray ym 1934, ac fe'i holynwyd gan Miss Margaret Thomas, Penbryn Ffatri, Pen-y-groes, a ymunodd â'r athrawes arall, Miss Jennie Powell Parry, i ddarparu addysg i'r babanod. Roedd Miss Parry'n credu'n gryf mewn dysgu elfennau cerddoriaeth, gan drefnu cyngerdd Gŵyl Dewi a dramâu bach ar gyfer y rhieni. Roedd Miss Thomas, fel Miss Gray o'i blaen, yn credu mewn addysg byd natur, ac aeth ati'n syth i greu gardd y gallai'r plant ei thrin o flaen yr ysgol. Ym 1938 cafodd yr ysgol ei harolygu, a'r arolygwyr yn dod i'r casgliad fod yr athrawon yn ddwy dda iawn, yr adeilad yn olau a hwylus a'r plant yn rhai siriol!

Yn ôl yr hanes, cafwyd cyfnod pur anodd wedyn gyda nifer o "faciwîs" a'u hathrawon yn cyrraedd o Lerpwl, a bu'n anodd cael lle iddynt. Nad oedd eu glanweithdra'n amlwg a rhai'n sâl - heb sôn am broblemau cymysgu iaith.

Trefnwyd cinio ysgol am y tro cyntaf ym 1943, a phenodwyd cogyddes a chynorthwywraig - Mrs Katie Williams, Grugan Ganol a Miss Gwen Williams, Tal-y-llyn Bach.

Ymddeolodd Miss Thomas ym 1957 a daeth Miss Jennie Price, Pant-glas, yn ei lle, hyd nes i'r ysgol babanod gau fel sefydliad ar wahân ym 1962. Y flwyddyn honno, caewyd Ysgol Penfforddelen hefyd, symudodd y plant hŷn i naill ai Ysgol y Groeslon, sef Ysgol Bro Llifon fel y'i hadwaenir bellach, neu i Ysgol Carmel. Yn achos y Groeslon, cadwyd hen adeilad y babanod, gan ychwanegu ati neuadd a ystafelloedd dosbarth newydd.