Huw Lloyd Edwards

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:21, 19 Awst 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cofeb i Huw Lloyd Edwards ar Siop Gron, Llanrug

Dramodydd Cymreig oedd Huw Lloyd Edwards (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Llanrug. Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Pen-y-groes, lle dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaen i wneud gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Wedyn, bu'n ddarlithydd dylanwadol yng Ngholeg y Normal, Bangor.

Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn eu naws ond yn waith o sylwedd a enillodd ednygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama Cynfyng-Gyngor yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy.

Nododd J. Ellis Williams yn ei lyfr Tri Dramaydd Cyfoes (sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomediau ysgafn a'i ddramau radio a llwyfan.[1]

Dramâu

  • Llwyn Brain : comedi ysgafn, tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
  • Yr Orffiws : comedi mewn tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
  • Y gŵr drwg: comedi, Gwasg Aberystwyth, 1957
  • Cyfyng-Gyngor, Gwasg Aberystwyth, 1957
  • Y Gŵr o Gath Heffer ac Y Gŵr o Wlad Us, Gwasg Gee, 1961
  • Ar Ddu a Gwyn, Gwasg Gee, Rhagfyr 1963
  • Pros Kairon: Drama mewn tair act,Gwasg Gee, Rhagfyr, 1967
  • Y llyffantod: Drama mewn pedair golygfa, Gwasg Gee, Rhagfyr, 1973
  • Y lefiathan : ffantasi mewn pum golygfa, Gwasg Gee, 1977

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia,Huw Lloyd Edwards [1], a Gwefan BBC Cymru Lleol Gogledd-Orllewin, Medi 2007, [2], cyrchwyd 20.8.2021;