Lottie Ogwen Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:55, 23 Gorffennaf 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cantores enedigol o Drefor a enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd Lottie Ogwen Jones (Thomas yn ddiweddarach) (1925-2020). Merch ydoedd ir William John Hughes a Jane Hughes (Llinos Yr Eifl). Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol gyda'i mam, a ganai dan yr enw Llinos yr Eifl, yn gantores amlwg mewn cyngherddau ac eisteddfodau yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Gweithiai fel nyrs. Brawd Lottie Ogwen oedd George Baum a fu'n adnabyddus fel canwr gwerin ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf ail-briododd gan gymryd y cyfenw Thomas ac ymgartrefodd yn Y Ffôr yn ystod ei blynyddoedd olaf. Bu farw yn 2020.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol; Daily Post, 16.6.2020