Dwyfor-Meirionnydd
Dwyfor-Meirionnydd yw'r enw ar etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2007 a San Steffan yn 2010. Mae'n cynnwys Meirionnydd, Llŷn, Eifionydd, a chymunedau Clynnog Fawr a Llanaelhaearn yn Uwchgwyrfai.
Daliodd Dafydd Elis-Thomas sedd Cynulliad/Senedd Cymru yr etholaeth wedi ffurfio'r etholaeth yn 2007. Safodd ym mhob etholiad hyd 2016 fel ymgeisydd Plaid Cymru, ond bron yn syth ar ôl ei etholiad diwethaf yn 2016, ymddiswyddodd o Blaid Cymru gan eistedd fel aelod annibynnol, gan ei fod, meddai, yn awyddus i weld cydweithredu efo'r Blaid Lafur. Cafodd ei wneud yn ddirprwy weinidog yn fuan wedyn. Ni safodd yn 2021, ac etholwyd Mabon ap Gwynfor, yr ymgeisydd Plaid Cymru, yn ei le.
Dyma restr o'r aelodau seneddol i San Steffan:
- 2010 - 2015 Elfyn Llwyd (Plaid Cymru)
- 2015 - Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma