Dafydd Elis-Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:54, 15 Gorffennaf 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu'r Dr. Dafydd Elis-Thomas (Barwn Elis-Thomas o Nant Conwy) (g.1946) yn aelod Senedd Cymru dros ran ddeheuol Uwchgwyrfai, sef plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn rhwng 2007 a 2021. Safodd yn enw Plaid Cymru ym mhob etholiad yn ystod ei yrfa wleidyddol - fel Aelod Senedd San Steffan o 1974 hyd 1992 dros etholaeth Meirionnydd (wedyn Meirionnydd Nant Conwy) ac o 1999 ymlaen fel aelod o Gynulliad Cymru dros yr un etholaeth ac wedyn etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd. Mae'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ar ôl derbyn teitl "Barwn" ym 1993.

Yn fuan wedi etholiad 2016 fe gyhoeddodd na allai wasanaethu fel aelod o Blaid Cymru gan nad oedd y Blaid yn awyddus i gydweithredu gyda Llywodraeth Lafur y Senedd, ond fe barhaodd i eistedd fel Annibynnwr yn y Senedd, penderfyniad a berodd ddicter a siom ymysg llawer o'i gefnogwyr. Ymddiswyddodd o Blaid Cymru, a chyn bo hir fe'i dyrchafwyd yn ddirprwy weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ar ôl dwys ystyriaeth, meddid, fe benderfynodd na fyddai'n amddiffyn ei sedd yn etholiad 2021, ac etholwyd ymgeisydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor yn ei le.

Beth bynnag ei gyfraniad ehangach i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru, teg yw dweud mai ymylol oedd effaith cynrychiolaeth Dafydd Elis-Thomas ar Uwchgwyrfai a hynny, mae'n debyg, yn anorfod ag ystyried maint ei etholaeth.

Bu'n weithgar ym mywyd cyhoeddus Cymru mewn sawl ffordd - yn eu mysg Llywydd cyntaf y Cynulliad, cadeirydd Bwrdd yr Iaith a Llywydd Prifysgol Bangor. Gan nad yw'r pethau hyn yn ganolog i hanes Uwchgwyrfai, cyfeirir y rhai sydd â diddordeb i dudalenni Wicipedia.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1], cyrchwyd 16.7.2021; gwybodaeth bersonol