Pont-y-Cim

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:22, 21 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont hynafol, ger Pontllyfni yw Pont-y-Cim.

Cafodd ei hadeiladu yn 1612, ac chafodd ei hariannu gan Catherine Bulkeley am £20. Awgrymai rhai ei bod wedi ei hariannu ar ôl i’w chariad foddi yn yr afon oddi tani. Gellir gweld plac ar y bont yn nodi enw Catherine a’r hyn a wnaethpwyd hi yn 1612.

Yn 1750, gorchmynnodd Llys y Sesiwn Chwarter yng Nghaernarfon iddi ei hadnewyddu a’i lledaenu er mwyn sicrhau fod ceffylau a throl yn gallu mynd trosti.

Ar ôl llifogydd yn 1935, cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i draffig.

Ffynonellau

Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol