Ffatri Wlân Clynnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:33, 4 Mehefin 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hen fil Ffatri Wlân Clynnog, 1891

Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Tröwyd olwyn ddŵr y ffatri gan Afon Desach, wedi i'r dwberchennog newyddael ei droi ar hyd pinfarch neu gafn 270 metr o hyd.[1] Mae'n sicr ei bod hi wedi ei sefydlu cyn 1794, y flwyddyn y sefydlwyd yr ysgol sul yn y capel a enwyd yn ddiweddarach yn "Capel Uchaf" a hynny gan John Owen, Henbant Bach a gynorthwywyd gan John Robert, "Factory",Tai'n-lôn. Roedd John Robert yn fab i Robert Ffoulk, y gwehydd.[2] Yn 1841, roedd John Roberts, gwehydd yn byw yn y "Factory" yn Nhai Lôn,[3] (Ai mab John Robert?) ac erbyn 1850 roedd yn fusnes yn ddigon pwysig i gael ei gyfrif mewn rhestr o felinau gwlân y sir.[4] Ym 1851, roedd John Roberts yno o hyd, ac yn cael ei ddisgrifio fel meistr-wehydd gwlân. Nid oedd ei fab Joseph, a fyddai'n ei olynu, yn byw yno ar y pryd; ond ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd Joseph yn ôl adref, yn gweithio i'w dad fel gweithiwr ffatri wlân. Yr oedd ei dad tua 74 oed ac erbyn 1871, roedd wedi trosglwyddo'r ffatri i'w fab Joseph, a oedd wedi penderfynu am ryw reswm neu'i gilydd ddefnyddio'r cyfenw patronymig Jones yn lle Roberts - ond roedd ei dad, John Roberts, 84 oed erbyn hynny, yn dal yno. Roedd wedi colli ei wraig, ac yn cael ei ddisgrifio'n syml fel gwehydd gwlân - yn methu ymddeol yn llwyr, mae'n debyg. Yn ogystal â John Roberts, roedd pedwar o wehyddion cyflogedig yn byw yn y ffatri efo'r teulu. Ym 1891, roedd un gweithiwr yn byw yno gyda'r teulu. Ym 1901, roedd y ffatri'n dal i weithio, ond y flwyddyn honno fe ddisgrifiodd cyfrifwr y Cyfrifiad Joseph fel gwneuthurwr gwlanen ("Flannel Manufacturer"). Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd Joseph wedi marw ac yr oedd yna berchennog newydd ar fusnes y ffatri, sef John Hughes, dyn 43 oed a ddisgrifiodd ei hun ar y ffurflen Cyfrifiad fel "Ffatrwr/Masnachwr" ac yn feistr-grefftwr. Dyn o'r Bala ydoedd, ond roedd ei wraig Martha'n hanu o Fethesda.[5]

Ymddengys enw John Hughes yng Nghyfrifiad Gwytherin, 1891, 23 oed a dibriod, yn gweithio fel gwehydd yn Ffatri Wlân Gwytherin yn Sir Ddinbych. Roedd Robert Roberts, gwneuthurwr gwlân, yn hen lanc 55 oed ac yn dal i fyw yn Nhy'r Ffatri hefo'i fam, Mary Hughes, 86 oed. Roedd Robert Roberts yn wr uchel ei barch ac yn flaenor yng Nhapel Cae’r Graig, cangen i Gapel Siloh, Gwytherin..... Mae’r tri yma yn enedigol o’r Bala. Yn byw yma hefyd mae Thomas Roberts, nyddwr 17 oed, o Lanfair Talhaearn yn ogystal â’r forwyn Catherin Evans, 18 oed. Bu farw Mary Hughes, Ty’r Ffatri, yn 1894 a chladdwyd hi ym mynwent Capel Siloh, Gwytherin.

Ar gyfrifon 1901 gwelwn bod Robert Roberts, y pennaeth, yn dal yng Ngwytherin ynghyd â John Hughes a Thomas Roberts a disgrifir nhw fel “Woolen Factory men”. Mae Martha Hughes o Fethesda yn cadw ty iddyn’ nhw. Dau arall a fu’n gweithio yn y ffatri wlân oedd John Owen Jones ac Evan Griffith Jones.

Daeth amser pan nad oedd cymaint o waith yn y ffatri wlan ac o’r herwydd fe symudodd Robert Roberts, a John a Martha Hughes, i ffatri Wlân Tai Lon, Clynnog Fawr, a John Owen Jones i Ty Newydd, Mynytho. Evan Griffith Jones oedd yr olaf i symud tua 1921-2. Aeth ef a’i wraig a’r mab, Emlyn, i Ddolgellau i gadw siop ddillad. Wedi marwolaeth Robert Roberts yng Nhlynnog ym mis Hydref 1917 yn 80 oed, daeth 'nol i Wytherin i’w gladdu gyda’i fam.[6]

i'w barhau.....

Fel y gwelsom uchod, yr oedd Ffatri Wlan Tai'n-lon yn dal i weithio ym 1911. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau yn adeg honno gan blant Ysgol Ynys-yr-arch yn ei hunangofiant:

Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.[7]

Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.[8] Dyddiad y bil yw 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc â'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd. Sylwer ar dop y bil y rhestr o bethau yr oedd y ffatri'n eu cynhyrchu.

Mae'r ffatri wedi cau ers blynyddoedd lawer, ond mae'r adeiladau wedi goroesi fel tai, sef Yr Hen Felindy a Melin Wlân.


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, [1]. cyrchwyd 24.5.2021
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), T.25,
  3. Cyfrifiad plwyf Clynnog Fawr, 1841
  4. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), t.240
  5. Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1851-1911
  6. Heulwen Ann Roberts, Gwytherin, ar gyfer arddangosfa yn Amgueddfa Syr Henry Jones, Mehefin 2008.
  7. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), t.24
  8. Sophia Pari-Jones, Echoes from a Water Wheel (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29