Melin Glan-yr-afon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:19, 25 Mai 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.[1] Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.[2]

Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd yn gynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu ablancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym Mhen-y-groes.[3]

Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r felin fel The Woollen Mill, Clynnog Road.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  2. Hen Luniau Dyffryn Nantlle (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.
  3. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), tt.244-5.