Capel Saron (A)
Mae Capel Saron yn sefyll yn rhan isaf plwyf Llanwnda, ac mae'r pentref sydd wedi tyfu o'i gwmpas wedi mabwysiadu'r enw Saron. Mae'r capel yn perthyn i'r Annibynwyr.
Cychwynnodd yr achos gan William Hughes, Brynbeddau, ffermwr sylweddol yn y plwyf, a gafodd ysgogiad crefyddol wrth wrando ar bregethu yng Nghapel Caernarfon rywbryd ar ôl 1790. Dechreuodd yr arferiad o gynnal cyfarfodydd i bregethu yn y Graigwyllt, plwyf Llanfaglan, ac o dipyn i beth fe dyfodd gynulleidfa yno ond bu raid iddynt symud wedi i'r tirfeddianwyr gelyniaethus lleol fynnu bod y rhai a aeth yno'n malu cloddiau ac ati, a phregethu ar dir comin yn y plwyf hwnnw am ryw bum mlynedd. Cafodd alwad rywbryd i gynnal gŵylnos mewn tŷ hen ddynes a oedd newydd farw ar dir y Pengwern, ac o hynny ymlaen, cynhaliodd gyfarfodydd ym mhlwyf Llanwnda, mewn tŷ a'r enw Tros-y-lôn,a logwyd at y pwrpas gan ffermwr fferm y Bont-faen. Tyfodd y niferoedd yno, cychwynnwyd ysgol Sul, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddïo a phregethu.
Wedi i rai blynyddoedd fynd heibio, teimlwyd fod angen adeilad mwy a sicrhawyd prydles ar gornel o dir comin Rhosysgawen lle codwyd capel a thŷ gweinidog. Symudodd William Hughes yno, gan roi ffermio heibio a gweithio fel gweinidog anffurfiol yr achos. Digwyddodd hyn rywbryd ar ôl 1812. Ar ôl i William Hughes fynd yn hen, ac yn unol ag arferiad yr Annibynwyr cynnar, fe'i urddwyd yn weinidog swyddogol ond aeth rhywbeth o'i le gyda'i berthynas â'r eglwys a oedd wedi ei sefydlu, ac fe symudodd yn ei henaint yn ôl i'r Bontnewydd lle aeth yn aelod. Dichon mai ei ddawn i efengylu a sefydlu achos ond ei fethiant i weinidogaethu'n effeithiol oedd y tu ol i'r gwahanu.
Am rai blynyddoedd yn y 1830au roedd y capel yn ddi-weinidog, nes rhoi galwad i Griffith Thomas o Rydlydan ym 1839. Bu yno, yn weithiwr caled ar ran yr eglwys, nes symud i Lanrug ym 1852. Ar ôl bod heb weinidog am rai blynyddoedd, ymunodd gyda chapel annibynnwyr y Bontnewydd i roi galwad i Robert Hughes, Rhosmeirch. Wedi iddo ymadael, rhoddwyd galwad wedyn i Lewis Williams, Llanarmon, fel gweinidog.
Roedd yr hen gapel wedi mynd an anaddas erbyn y 1860au, ac fe godwyd y capel presennol ym 1862. Gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r capel yn dal yn agored, un o dim ond pedwar achos yr Annibynwyr yn Uwchgwyrfai sy'n dal ar agor erbyn hyn.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Seiliwyd yr erthygl hon ar lyfr T.Rees a J. Thomas, ‘’Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru’’ (Lerpwl, 1873), tt.246-8