Garnedd Goch
Mae'r Garnedd Goch yn gopa bach ar y llethr sydd yn rhedeg i lawr o ben Craig Cwm Silyn i gyfeiriad mynydd Craig Goch, i'r gogledd o Fwlch Cwm Dulyn. Dyma'r ail gopa ar hyd Crib Nantlle. Caiff ei enw o'r ffaith fod carnedd hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd[1] ar ben y copa hwn. Mae uchder y copa'n union 700 metr uwchben y môr.
Ar waelod gogledd-orllewinol y Garnedd Goch yr oedd yr Hen Ddoctor Mynydd, David Thomas Jones yn byw, mewn tŷ o'r enw Hafod yr Esgob. Ar y llethr uwchben yr oedd Ffynnon y Doctor, a ddefnyddid ganddo at ddiben creu meddyginiaethau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma