W.A. Provis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:53, 6 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Alexander Provis (1792-1870) yn beiriannydd a syrfewr a fu'n gweithredu fel peiriannydd preswyl Thomas Telford wrth i Bont y Borth (neu Bont Menai) gael ei chodi. Fe'i ganwyd yn Swydd Gaergrawnt, ond teithiodd ymhell ac agos lle bynnag y câi waith ym Mhrydain, cyn ymddeol i ystad fechan yn Ellesmere, Swydd Gaer.[1] Bu'n byw ger y Garth ym Mangor tra oedd y gwaith ar Bont y Borth yn mynd rhagddo, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe'i comisiynwyd hefyd i wneud yr arolwg a'r mapiau statudol ar gyfer adeiladu Rheilffordd Nantlle ac yn y cyd-destun hwnnw mae ganddo le yn hanes Uwchgwyrfai. Mae ei fap gwreiddiol yn dangos llwybr arfaethedig Rheilffordd Nantlle ar gael hyd heddiw yn Archifdy Caernarfon.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Graces Guide to British Industrial History [1], cyrchwyd 10.6.2019