Idwal Jones (gweinidog ac awdur)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:19, 18 Mawrth 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Idwal Jones (1910–1985) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn bregethwr nodedig, ac yn dramodydd, awdur a darlledwr Cymraeg. Fe'i ganwyd yn Nhal-y-sarn. Mae'n enwog yn bennaf am ei bregethu nodweddiadol, a'i ddramâu radio a nofelau yng nghyfres SOS Galw Gari Tryfan.

Roedd yn fab i Dafydd a Mary Jones, Brynteg, Stryd Cavour, Tal-y-sarn. Addysgwyd yn Ysgol Tal-y-sarn, yr Ysgol Sir ym Mhen-y-groes a Choleg Annibynwyr Bala Bangor. Pregethu

Bu'n gweinidogaethu'r eglwysi canlynol - Capel yr Annibynwyr, Llanrhaeadr ym Mochnant 1933-1936; Saron (A) Rhydyfro 1936-1944; Tywyn, Meirionydd 1944-1948; Tabernacl, Pencader 1948-1953 a'r Tabernacl, Llanrwst a Nant y Rhiw, Dyffryn Conwy 1953 tan iddo ymddeol yn 65 oed yn 1975. YN ystod ei gyfnod yn Llanrwts, bu'n cadw siop fframio lluniau ac ati yn unol â'i gred y dylai gweinidog beidio adibynnu ar aelodau ei gapel i'w gynnal.

Penderfynodd yn ifanc iawn mae pregethwr oedd arno eisiau bod. Cychwynodd bregethu yn bymtheg oed. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng nghapel Drws-y-Coed. Yn ystod ei yrfa daeth yn adnabyddus fel un o brgethwyr mawr cyfarfodydd pregethu ei enwad. Llenor a darlledwr

Hefyd, roedd ganddo'r ddawn o ysgrifennu dramâu. Y mwya adnabyddus oedd y gyfres ddrama radio i blant, sef SOS Galw Gari Tryfan. Daeth honnoo'n ffefryn gan blant Cymru am ddau degawd. Cyfrannodd yn ddi-dor am flynyddoedd i raglenni BBC Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb ym myd argraffu a cychwynnodd gwmni cyhoeddi Gwasg yr Arad, Pencader a Llanrwst.

Ym 1951 pregethodd ar BBC Welsh Home Service (cyn bodolaeth Radio Cymru). Bu cynnwrf drwy Gymru a bu siarad am y bregeth hon am flynyddoedd. Y testun oedd Tomos Didymus, ac adnabyddir hi fel pregeth Twm Bach.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

Categpori:Gweinidogion

  1. Erthygl amdano ar Wicipedia Cymraeg, [1]; a gwybodaeth bersonol