Cwm Tal-y-mignedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:24, 16 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwm rhewlifol mwyaf dwyreiniol ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle yw Cwm Tal-y-mignedd. Mae'n gorwedd yng ngheseiliau gogleddol mynyddoedd Clogwyn y Barcut, Y Garn, Mynydd Drws-y-coed a Thrum y Ddysgl. Rhed un gangen o Afon Gelli-dywyll ar hyd-ddo.

Mae yna hen weithfeydd copr a haearn ar ystlys ddwyreiniol y cwm ar lethrau Clogwyn y Barcut.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. British Mining, Rhif 41, tt.49-50 [1]