Afon Gelli-dywyll

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:43, 15 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Gelli Dywyll yn gynnyrch dwy nant, un sy'n codi o dan gopa mynydd Y Garn a'r llall sydd yn codi ar lethrau serth creigiau Trum y Ddysgl, cyn llifo i lawr Cwm Tal-y-mignedd, cwm serth tua'r gogledd-orllewin am ryw ffilltir ar draws tir Tal-y-mignedd Uchaf, ac i'r dwyrain o fferm Tal-y-mignedd Isaf, cyn cyrraedd Afon Drws-y-coed neu Afon Gopr, sef rhan uchaf Afon Llyfni. Nant fynyddig ydyw yn hytrach nag afon sylweddol.[1] Ar fapiau Ordnans mae'n cadel ei chamenwi fel Afon Tal-y-mignedd, afon ychydig i'r gorllewin iddi.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]