Ffridd Baladeulyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:25, 29 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae gwreiddiau fferm Ffridd Baladeulyn, ar gyrion pentref Nantlle, ac a elwir heddiw fel arfer yn "Ffridd", yn mynd yn ôl ymhell ac ar un adeg roedd yn perthyn i hen stad Dorothea cyn i'r chwareli llechi gael eu sefydlu yn Nyffryn Nantlle. Mae'r enw Baladeulyn yn disgrifio darn gwastad o dir rhwng dau lyn, ac roedd yno ddau lyn ar un adeg cyn i'r llyn isaf o'r ddau gael ei sychu a newid cwrs yr Afon Llyfni o ganlyniad i ddatblygu Chwarel Dorothea a chwareli eraill cyfagos. Erbyn hyn, fel y dywed R. Williams Parry yn ei gerdd "Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw", "Does ond un llyn ym Maladeulyn mwy".

Yng nghanol y ddeunawfed ganrif bu'r Ffridd yn fagwrfa i ddau a ddaeth yn weinidogion amlwg iawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, sef John Roberts (1753-1834) a Robert Roberts (1762-1802), meibion i Robert a Catherine Thomas. Dywedir mai ym Mlaenygarth, Dyffryn Nantlle, y ganed John ar 8 Awst 1753, ond â fferm Y Ffridd y caiff ei gysylltu. Wedi cyfnod o weithio yn Chwarel Cilgwyn, llwyddodd i gael tipyn o addysg ac yna aeth ati i gadw ysgolion ei hun mewn gwahanol fannau, yn arbennig Llanllyfni, ac am gyfnod adwaenid ef fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yn 27 oed a phriododd â gwraig weddw, Mrs. Lloyd, Cefn Nannau, Llangwm, Meirionnydd. Ac yn Llangwm y bu'n byw o 1809 tan ei farwolaeth ar 3 Tachwedd 1834, yn 82 oed, ac fel John Roberts Llangwm y mae'n fwyaf adnabyddus. Roedd ymhlith y garfan gyntaf o ddynion a gafodd eu hordeinio'n weinidogion gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1811, pan ymwahanodd y mudiad yn swyddogol oddi wrth yr Eglwys Wladol a dod yn enwad annibynnol. Yn wahanol iawn i'w frawd iau, Robert, roedd yn ddyn byr a chadarn o gorffolaeth a chyfansoddiad. Er nad ystyrid ef yn bregethwr mor danbaid â Robert, roedd galw mawr am ei wasanaeth a bu'n bregethwr cyson yng nghymdeithasfaoedd ei gyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru am flynyddoedd. Mab iddo oedd Michael Roberts, a ddaeth hefyd yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd gan ymsefydlu yn eglwys Penmount, Pwllheli. Fodd bynnag, daeth diwedd trist i hanes Michael Roberts, gan iddo ddioddef o salwch meddwl a dryswch difrifol yn ddiweddarach yn ei oes.

Roedd Robert Roberts, a aned 12 Medi 1762, bron i ddegawd yn iau na John, ac fel ei frawd bu yntau'n gweithio am gyfnod yn fachgen yn Chwarel Cilgwyn. Yn ddiweddarach aeth i weini ar ffermydd yn Eifionydd, a thra oedd yn was yn Coed-cae-du, dioddefodd o glefyd grydcymalau enbyd a danseiliodd ei iechyd a'i adael yn ddyn llesg a chrwca am weddill ei oes. Ni allai barhau'n was fferm ac wedi cael cyfnod byr o ysgol ym Mrynengan, dan Evan Richardson mae'n fwy na thebyg, dechreuodd bregethu. Datblygodd i fod yn un o bregethwyr mwyaf tanbaid a nerthol ei gyfnod, er gwaethaf ei anableddau, ac fe'i gelwid gan amryw "y seraff tanllyd". Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar yr achos yng Nhapel Ucha, Clynnog, gan fyw yn y tŷ capel a oedd yn gysylltiedig â'r capel am weddill ei oes fer. Bu farw 28 Tachwedd 1802. (Gweler yr erthygl helaethach ar Robert Roberts yn Cof y Cwmwd.) [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gweler Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein am fywgraffiadau ar John, Robert a Michael Roberts; hefyd Robert Roberts - Yr Angel o Glynnog, Emyr Roberts ac E. Wyn James (Llyfrgell Efengylaidd Cymru 1976).