Chwarel Moel Tryfan
Chwarel lechi ym mhlwyf Llandwrog oedd Chwarel Moel Tryfan. Lleolir hi ar lethrau Moel Tryfan, uwchben pentref Rhosgadfan. Dechreuodd fel cloddfa fechan iawn, cyn cael ei datblygu yn arw tua’r 1880au, yn dilyn datblygiad y rheilffyrdd yn ardal Dyffryn Nantlle. Erbyn 1882 roedd 81 dyn yn cynhyrchu oddeutu 1880 tunnell o lechi yno.
Erbyn 1898, roedd 236 o ddynion yn gyflogedig yno. Roedd y cynnyrch yn cael ei gario oddi yno drwy dwnnel i fan y lle roedd melinau enfawr yn eu hollti, rhywbeth anarferol i’r ardal hwn.
Diddymwyd y rheilffordd yn y chwarel erbyn 1966, a defnyddiwyd loriau ‘Matador’ i ddanfon y cynnyrch. Daeth y gweithio yma i ben yn yr 1970au.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma