Hen Bandy, Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:47, 8 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae olion adeilad o'r enw Hen Bandy yn cael ei nodi ger Eglwys Sant Rhedyw yn Llanllyfni ac yn agos at Felin-gerrig. Mae bur sicr felly y bu pandy i drin brethynnau wedi bod yno ar un adeg, a cheir olion ffrwd felin neu binfarch.[1] Mae'n debyg ei bod wedi hen gau erbyn 1889 pan gyhoeddwyd y map Ordnans graddfa fawr cyntaf o'r ardal. Mae olion y pandy'n dal yng nghanol y cae y tu ôl i'r eglwys, ar ganol y llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg o Bont Rectory a'r ffordd fawr i gyfeiriad y ffordd osgoi newydd.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1]