Hela

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:02, 3 Ionawr 2021 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd hela yn rhan o fywyd pob dosbarth yn Uwchgwyrfai yn y gorffennol, er nad oedd fawr o hela am bleser heblaw am yr hyn a drefnwyd gan deulu Glynllifon drostynt eu hunain a'u ffrindiau lleol ac ymwelwyr a arhosai yn y Plas, gan gyflogi ciperiaid i sicrhau bod digon o ysglyfaeth. Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth llawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd John Thorman ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon. Roedd Fferm y Warren ar Forfa Dinlle yn cael ei henwi ar ôl y gwningar a warchodid yn y tir tywodlyd. Roedd ystadau eraill yn gwarchod eu tiroedd a oedd o fewn ffiniau'r cwmwd, neu eu rhoi dan ofal un o'r sgweiriaid oedd yn cadw ciper. Yn llythyrau Ystad Glynllifon[1] ceir nifer o geisiadau gan pobl canol dosbarth oedd yn awyddus naill ai i saethu dros dir Glynllifon nad oedd yn rhan o'r prif ystâd, neu yn cynnig "gwarchod" rhannau o dir yr ystad, gan dderbyn hawl i saethu yn sgîl hynny.

Serch ymdrechion y ciperiaid, nid oedd y tlodion ar ei hôl hi lle roedd ceisio bwyd os oeddynt yn cael y cyfle, ond erlynid llawer un am botsio eogiaid, ffesantod, cwningod ac ysfarnogod, os oedd y ciper yn cael gafael arnynt.

Hela llwynogod ar diroedd Tal-y-mignedd Isaf a'r Ffridd. John Owen Jones, Tal-y-mignedd ar y dde; Goronwy Roberts, ewyrth Kevin Roberts ar y chwith

Ni fu helfa swyddogol "cotiau cochion", fel a geir yn Lloegr, yn yr ardal, yn mynd ar ôl yr holl lwynogod, a dichon i giperiaid Glynllifon gadw eu nifer i lawr ar dir eu ffermydd, ond yr oedd llwynogod yn bla yn y mynyddoedd, a rhaid oedd i ffermwyr lleol gymryd materion i'w dwylo eu hunain er mwyn gwarchod eu defaid. Gwelir yma llyniau o ffermwyr yn hela llwynogod ar Mynydd Tal-y-mignedd yn y 1930au. Sylwer mor uchel ar y mynydd y bu raid iddynt ddringo, lle roedd ffeuau'r llwynogod.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

[[Categori: ]]

  1. Archifdy Caernarfon, passim.