Tal-y-mignedd Isaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Tal-y-mignedd Isaf''' yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf [[Dyffryn Nantlle]] gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol [[Cwm Ffynnon]] a [[Mynydd Tal-y-mignedd]]. Mae fferm [[Drws-y-coed]] i'r dwyrain a fferm [[Ffridd]] neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae [[Afon ]] yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i [[Richard Garnons]], fel rhan o [[Ystad Pant Du]].
Mae '''Tal-y-mignedd Isaf''' yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf [[Dyffryn Nantlle]] gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol [[Cwm Ffynnon]] a [[Mynydd Tal-y-mignedd]]. Mae fferm [[Drws-y-coed]] i'r dwyrain a fferm [[Ffridd]] neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae [[Afon Craig-las]] yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i [[Richard Garnons]], fel rhan o [[Ystad Pant Du]].

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.  

Llinell 8: Llinell 8:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ffermydd ]]
[[Categori:Ffermydd]]

Fersiwn yn ôl 18:25, 18 Rhagfyr 2020

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon Craig-las yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons, fel rhan o Ystad Pant Du.

Parhaodd yn rhan o eiddo teulu Garnons tua 1840 pan y cynhaliwyd arolwg o diroedd y plwyf er mwyn pennu rhent degwm yn lle'r nwyddau a chynnyrch yr arferid gorfod eu cyflwyno fel "degwm" neu gyfraniad at yr eglwys.

Ym 1840, Owen Jones oedd y tenant, ac roedd y tir yn ymestyn dros ryw 680 acer, gyda'r rhent degwm oedd yn daladwy ar y fferm yn (£7.15.10c. y flwyddyn). Dyma enwau'r caeau a restrwyd: Cae'r Groes, Gweirglodd y Gors, Rhos Isaf, Gweirglodd y Bont, Cae Maes Isaf, Rhos Uchaf, Gweirglodd y Brwyn, Tyn Cynnau, Cae Canol, Wern Wafladd (?), Cae'r Foty, Buarth Graig, Cae Newydd, Bryn Llwyd, Dol tan y graig, Graig Talcen, Gallt Garth y Blithion, Buarth, Cefnfaes Uchaf, Cefnfaes Mawr a Chae Bach.[1]

Cyfeiriadau

  1. LLGC, Map a Rhestr Ddegwm plwyf Llanllyfni [1]