Melin Cae Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fe ymddengys fod '''Melin Cae Mawr''' yn felin ŷd ar Afon Gwyrfai ger ffermydd Cae Mawr a Thddyn Parthle. Dichon iddi gael ei sefydlu yno yn y Ganol Oeso...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Fe ymddengys fod '''Melin Cae Mawr''' yn felin ŷd ar Afon Gwyrfai ger ffermydd Cae Mawr a Thddyn Parthle. Dichon iddi gael ei sefydlu yno yn y Ganol Oesoedd neu'n fuan wedyn, ond roedd y safle'n anghysbell i ardalwyr Llanwnda a Llanfaglan oedd i fod i gael malu eu grwan yno, gan ei bod tua 2 filltir o'r tir gorau ar wastadeddau'r plwyfi hynny. Dywedir mewn achos llys o 1627 fod [[Melin y Bont-faen]] yng ngwaelodion y plwyf wedi ei chodi ychydig flynyddoedd ynghynt ac felly rhesymol yw tybio mai tua'r amser honno y caewyd Melin Cae Mawr.
Fe ymddengys fod '''Melin Cae Mawr''' yn felin ŷd ar Afon Gwyrfai ger ffermydd Cae Mawr a Thddyn Parthle. Dichon iddi gael ei sefydlu yno yn y Ganol Oesoedd neu'n fuan wedyn, ond roedd y safle'n anghysbell i ardalwyr Llanwnda a Llanfaglan oedd i fod i gael malu eu grawn yno, gan ei bod tua 2 filltir o'r tir gorau ar wastadeddau'r plwyfi hynny. Dywedir mewn achos llys o 1627 fod [[Melin y Bont-faen]] yng ngwaelodion y plwyf wedi ei chodi ychydig flynyddoedd ynghynt ac felly rhesymol yw tybio mai tua'r amser honno y caewyd Melin Cae Mawr.


Erbyn y 17g, roedd ym meddiant Richard Evans, [[Elernion]], ond roedd y ffrwd felin wedi cau â cherrig a dywedwyd fod yr adeilad mewn cyflwr mor sâl fel na fentrai neb y tu fewn iddi.<ref>W.Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.) tt.130-1.</ref>
Erbyn y 17g, roedd ym meddiant Richard Evans, [[Elernion]], ond roedd y ffrwd felin wedi cau â cherrig a dywedwyd fod yr adeilad mewn cyflwr mor sâl fel na fentrai neb y tu fewn iddi.<ref>W.Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.) tt.130-1.</ref>

Fersiwn yn ôl 15:58, 13 Rhagfyr 2020

Fe ymddengys fod Melin Cae Mawr yn felin ŷd ar Afon Gwyrfai ger ffermydd Cae Mawr a Thddyn Parthle. Dichon iddi gael ei sefydlu yno yn y Ganol Oesoedd neu'n fuan wedyn, ond roedd y safle'n anghysbell i ardalwyr Llanwnda a Llanfaglan oedd i fod i gael malu eu grawn yno, gan ei bod tua 2 filltir o'r tir gorau ar wastadeddau'r plwyfi hynny. Dywedir mewn achos llys o 1627 fod Melin y Bont-faen yng ngwaelodion y plwyf wedi ei chodi ychydig flynyddoedd ynghynt ac felly rhesymol yw tybio mai tua'r amser honno y caewyd Melin Cae Mawr.

Erbyn y 17g, roedd ym meddiant Richard Evans, Elernion, ond roedd y ffrwd felin wedi cau â cherrig a dywedwyd fod yr adeilad mewn cyflwr mor sâl fel na fentrai neb y tu fewn iddi.[1]

Cyfeiriadau

  1. W.Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.) tt.130-1.