Augustus Henry Wheeler: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Ei gartref oedd [[Plas yr Eifl]], [[Trefor]]. Cyn hynny, erbyn iddo gyrraedd 25 oed, roedd yn reolwr chwarel ithfaen de Lank<ref>Gwefan Lewisham War Memorials, [http://lewishamwarmemorials.wikidot.com/person:wheeler-augustus-henry], cyrchwyd 19.3.2020</ref> yn St Breward, Cernyw.<ref>Cyfrifiad 1901, St Breward</ref>

Roedd ei frawd iau, Arthur Herbert Wheeler, yn is-reolwr [[Chwarel Ithfaen Trefor|chwarel Trefor]].  
Roedd ei frawd iau, Arthur Herbert Wheeler, yn is-reolwr [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]].  

Yn ogystal a'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, [[Cwmni Moduron Caernarfon]], a redai fysiau rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a Chaernarfon a [[Llanaelhaearn]].

Fersiwn yn ôl 21:57, 3 Rhagfyr 2020

Roedd Augustus Henry Wheeler (1876-1915) a aned yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog y Swyddfa'r Bost[1], yn reolwr y Cwmni Ithfaen Cymreig o 1901, gan ddilyn George Farren a fu farw. Yn ol pob sôn, bu'n bur amhoblogaidd gyda'r chwarelwyr.

Ei gartref oedd Plas yr Eifl, Trefor. Cyn hynny, erbyn iddo gyrraedd 25 oed, roedd yn reolwr chwarel ithfaen de Lank[2] yn St Breward, Cernyw.[3]

Roedd ei frawd iau, Arthur Herbert Wheeler, yn is-reolwr chwarel Trefor.

Yn ogystal a'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, Cwmni Moduron Caernarfon, a redai fysiau rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a Chaernarfon a Llanaelhaearn.

Roedd yn uwchgapten yng 6ed gatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig, ac felly aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe'i laddwyd 12 Awst 1915 yn y Dardanelles. Gadawodd wraig (Adela Maud, (Liddell gynt), merch argraffydd o Fodmin, Cernyw) a phedwar o blant.[4]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad 1881, Lewisham
  2. Gwefan Lewisham War Memorials, [1], cyrchwyd 19.3.2020
  3. Cyfrifiad 1901, St Breward
  4. Flintshire Observer, 26 Awst 1915, t.8