Chwarel Dorothea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd [[Chwarel Pen-y-bryn]] ym 1894; [[Chwarel 'South Dorothea']] ym 1921 a [[Chwarel Gallt-y-fedw]] ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]], ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu [[Cangen Nantlle]] o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.
Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd [[Chwarel Pen-y-bryn]] ym 1894; [[Chwarel 'South Dorothea']] ym 1921 a [[Chwarel Gallt-y-fedw]] ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd [[Rheilffordd Nantlle]], ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu [[Cangen Nantlle]] o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.


Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddiwydy cynlluniau. Mae holl gofnodion mawl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/RhestrEitem.aspx?iaith=cy&rhif_archif=12&rhif_rhiant=98564].
Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. [[William Pleming]] oedd y rheolwr olaf, ac erbyn hynny, [[Michael Wynn Williams]] oedd y perchennog.<ref>Gwybodaeth gan fab William Pleming</ref> Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddwyd y cynlluniau. Mae holl gofnodion manwl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/RhestrEitem.aspx?iaith=cy&rhif_archif=12&rhif_rhiant=98564].


Oherwydd ei chwant am dir newydd (roedd [[Chwarel Cilgwyn]] i'r gogledd a'r afon i'r de), ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro [[Afon Llyfnwy]] a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef [[Llyn Nantlle Isaf]], er mwyn ennill mwy o dir arllwyso a chloddio.<ref>Seilir yr erthygl yn bennaf ar Dewi Tomos, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), ''passim'' a Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.</ref>
Oherwydd ei chwant am dir newydd (roedd [[Chwarel Cilgwyn]] i'r gogledd a'r afon i'r de), ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro [[Afon Llyfnwy]] a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef [[Llyn Nantlle Isaf]], er mwyn ennill mwy o dir arllwyso a chloddio.<ref>Seilir yr erthygl yn bennaf ar Dewi Tomos, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'' (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), ''passim'' a Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.</ref>
==Ymweliad myfyrwyr â Dorothea==


{{eginyn}}  
{{eginyn}}  

Fersiwn yn ôl 09:23, 1 Rhagfyr 2020

Chwarel lechi oedd Chwarel Dorothea yn Nhal-y-sarn, (SH 499532).

Roedd y chwarel hon yn un o'r safleoedd mwyaf llwyddiannus yng Ngwynedd yn ei chyfnod. Dorothea oedd un o'r prif gyflogwyr yn Nyffryn Nantlle hefyd, a gellir deall ei phwysigrwydd ym mywyd bro Tal-y-sarn ar un cyfnod.

Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai at Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad Pant Du a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei dyddiau cynnar yn Cloddfa Turner, pan gymerodd William Turner, Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith, John Morgan, feddiant o'r lle tua 1829. Newidiwyd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ôl cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ôl gwraig Richard Garnons. Daeth prydles Garnons i ben ym 1848, a chymerodd nifer o chwarelwyr unigol a phobl leol eraill gyfranddaliadau yn y chwarel Ymysg y rhain oedd John Jones, Tal-y-sarn a fu am sbel yn reolwr ar y chwarel. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr. Gwerthwyd y cyfranddaliadau hynny ym 1853 i John Williams a ddaeth yn y man i gael digon fel y gallai rheoli'r cwmni. Bu teulu Willims yny sefyllfa honno hyd nes i'r chwarel gau.

Roedd y chwarel yn un o'r ddwy fwyaf yn y dyffryn ac yr odd ganddi bedwar twll anferth agored. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr Hen Dwll a Twll y Weirglodd, a gwnaed hynny pan oedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o Ben-y-groes. Yn y gyfrol o farddoniaeth Cerddi'r Ddrycin gan O. Madog Williams, [1] dyma'r cyflwyniad a geir i'r gerdd Ifan Jos, tud 41: Labrwr yn Chwarel Dorothea, lle mae tri thwll - Twll Coch, Twll Bach a Thwll Ffiar.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi yn nyddiau cynnar John Williams, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Yn ei hanterth, ym 1882, cynhyrchwyd 16,598 tunnell gan 533 o ddynion. Prynwyd Chwarel Pen-y-bryn ym 1894; Chwarel 'South Dorothea' ym 1921 a Chwarel Gallt-y-fedw ym 1933. Allforiwyd yr holl gynnyrch ar hyd Rheilffordd Nantlle, ar y dechrau i borthladd Caernarfon, ac ar ôl adeiladu Cangen Nantlle o'r lein fawr, anfonwyd llawer mewn tryciau yn syth i gwsmeriaid ym Mhrydain.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan oedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn y galw am lechi ar gyfer tai. William Pleming oedd y rheolwr olaf, ac erbyn hynny, Michael Wynn Williams oedd y perchennog.[2] Roedd bwriad i'w throi'n atyniad twristaidd ar yr un linellau a chwareli mawr Blaenau Ffestiniog, ond ni wireddwyd y cynlluniau. Mae holl gofnodion manwl y chwarel wedi eu diogelu ac maent i'w gweld yn Archifdy Caernarfon. Mae'r catalog ar gael ar lein: [1].

Oherwydd ei chwant am dir newydd (roedd Chwarel Cilgwyn i'r gogledd a'r afon i'r de), ym 1899 aethpwyd ati gan y chwarel i wyro Afon Llyfnwy a llenwi llawer ar y llyn isaf, sef Llyn Nantlle Isaf, er mwyn ennill mwy o dir arllwyso a chloddio.[3]

Ymweliad myfyrwyr â Dorothea

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Newtown Welsh Outlook Press, Ail Argraffiad 1937, (gyda rhagymadrodd gan T. Gwynn Jones a gair gan R. Williams Parry)
  2. Gwybodaeth gan fab William Pleming
  3. Seilir yr erthygl yn bennaf ar Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), passim a Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), tt. 318-9.