David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''David William Pughe''' (1821-1862) yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i [[Eben Fardd]]. Hanai ei dad o deulu [[Lleuar Bach]] a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal [[Clynnog Fawr]] pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm [[Bachwen]]. Brawd iddo oedd [[John | Roedd '''David William Pughe''' (1821-1862) yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i [[Eben Fardd]]. Hanai ei dad o deulu [[Lleuar Bach]] a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal [[Clynnog Fawr]] pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm [[Bachwen]]. Brawd iddo oedd [[John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg)]].<ref>John P. Cule, ''John Pughe (1814-1874)'' [http://europepmc.org/backend/ptpmcrender.fcgi?accid=PMC2311899&blobtype=pdf]</ref> | ||
O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], ond o'i blentyndod, magodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifenodd sawl lyfr ar gstyll Cymru a hyd yn oed llyfr dan yr enw ''Awstralia, neu ar wlad yr aur'', ynghyd anifer o erthyglau yn y cylchgrawn hynafiaethol, ''Archaeologia Cambrensis''. | O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], ond o'i blentyndod, magodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifenodd sawl lyfr ar gstyll Cymru a hyd yn oed llyfr dan yr enw ''Awstralia, neu ar wlad yr aur'', ynghyd anifer o erthyglau yn y cylchgrawn hynafiaethol, ''Archaeologia Cambrensis''. |
Fersiwn yn ôl 09:08, 25 Tachwedd 2020
Roedd David William Pughe (1821-1862) yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i Eben Fardd. Hanai ei dad o deulu Lleuar Bach a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal Clynnog Fawr pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm Bachwen. Brawd iddo oedd John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg).[1]
O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, ond o'i blentyndod, magodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifenodd sawl lyfr ar gstyll Cymru a hyd yn oed llyfr dan yr enw Awstralia, neu ar wlad yr aur, ynghyd anifer o erthyglau yn y cylchgrawn hynafiaethol, Archaeologia Cambrensis.
Fe'i darawyd gydag iselder affwysol ar ddiwedd ei oes fer, gan ymatal rhag unrhyw weithred o'r bron ac unrhyw ffyrdd o gymdeithasu erbyn 1858, a bu farw Dachwedd 1862. Fe'i gladdwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn agos at fedd Eben Fardd ei gyfaill. Ynghanol ei bruddglwyfder, ysgrifennodd yr hyn a fwriedid yn epitaff iddo,[2] sef:
Wyf iach o bob afiechyd, Ac yn fy medd gwyn fy myd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma