Tafarn y Goat, Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Tafarn y Goat (Llanwnda) i Tafarn y Goat, Llanwnda |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:02, 21 Tachwedd 2020
Tafarn y Goat (ni alwodd neb y lle'n "Afr") yn Llanwnda oedd y dafarn a wasanaethai yr orsaf gerllaw. Roedd yn cael ei gadw am flynyddoedd lawer gan aelodau o'r un teulu Griffith oedd hefyd yn gyfrifol am werthu glo o iard yr orsaf ac yn rhedeg modurdy ar draws y ffordd i'r dafarn. Ym 1889, William Griffith oedd y tafarnwr a'r masnachwr glo.[1] Mae'r adeilad yn sefyll yno o hyd, wedi ei foderneiddio ar ryw adeg, er i'r tu mewn roedd yn parhau ar ei ffurf Fictorianaidd nes iddi gau tua 2004. Bu farw'r olaf i gadw'r dafarn, Ann Griffith, yn 2019.
Nid y Goat oedd unig dafarn y pentref bychan. Codai'r ffordd fawr dros bont y rheilffordd yr ochr Caernarfon i'r Goat, a'r ochr arall i'r bont oedd Tafarn y Railway. Caewyd yn ystod y 20g, ac ar ôl gwasanaethu fel tŷ annedd, fe'i chwalwyd wrth chwalu bont y rheilffordd.
Am flynyddoedd nes iddi gau roedd yn nodedig am gymreictod y gwmnïaeth ac yn gyrchfan i Gymry mwyaf genedlaetholgar y fro - er na chaniateid canu yno!
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfeiriadau Masnach Sutton, 1889-90