Pont Gelli-ffrydiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont y Gelli i Pont Gelli-ffrydiau |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:30, 15 Tachwedd 2020
Saif Pont y Gelli neu Pont Gelli-ffrydiau ar y B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y tŷ tyrpeg rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Fe saif ger fferm Gelli-ffrydiau, dros afonig a elwir yn Afon Gelli-ffrydiau sy'n rhedeg i mewn i Afon Drws-y-coed ychydig uwch na Llyn Nantlle Uchaf. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 12 troedfedd uwchben dwr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud fod y brif angen yn y sir am waith ar bontydd newydd oedd ger Gelli-ffrydiau, nid nepell o bentref Nantlle, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".[1] Rhaid oedd i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon oedd yr ymgymerwr. Cost y gwaith oedd £52.10s.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma