Llyn Ffynhonnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
'''Llyn Ffynhonnau''' yw tarddiad [[Afon Garth]] sydd yn rhedeg i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]]. Mae'r llyn mewn pant bach ar waelod llethrau gorllewinol [[Mynydd Mawr]] neu'r "Mynydd Grug", i'r dde o'r bwlch sydd yn croesi o bentref [[Y Fron]] i Glogwyn Cellog a [[Betws Garmon]]. Yn groes i lawer o lynnoedd Eryri, nid yw hwn yn llyn a ffurfiwyd ar ddiwedd Oes y Iâ mewn cwm rhewlifol, ond yn hytrach yn llyn mewn pant yn y mawndir. Ym 1888, roedd yn ymestyn dros 5.3 o erwau.
'''Llyn Ffynhonnau''' yw tarddiad [[Afon Garth]] sydd yn rhedeg i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Lyn Nantlle Uchaf]]. Mae'r llyn mewn pant bach ar waelod llethrau gorllewinol [[Mynydd Mawr]] neu'r "Mynydd Grug", i'r dde o'r bwlch sydd yn croesi o bentref [[Y Fron]] i Glogwyn Cellog a [[Betws Garmon]]. Yn groes i lawer o lynnoedd Eryri, nid yw hwn yn llyn a ffurfiwyd ar ddiwedd Oes y Iâ mewn cwm rhewlifol, ond yn hytrach yn llyn mewn pant yn y mawndir. Ym 1888, roedd yn ymestyn dros 5.3 o erwau.


Ar un adeg, fel mae'n ymddangos ar fap Ordnans 1888, roedd y llyn yn ymestyn dros fwy o dir ac arochr dde-orllewinol y llyn mae clawdd neu sarn ar draws y man lle mae Afon Garth yn llifo o'r llyn, er bod peth tir rhwng y clawdd a'r llyn ei hun erbyn hyn. Gellid cymeryd bod hyn yn arwydd o greu dam isel ar un adeg er mwyn dargyfeirio dŵr i chwarel gerllaw, neu gadw'r tir islaw yn sych er nad yw'r pwrpas yn eglur erbyn heddiw. Cerrig lleol ac nid llechi wedi eu cloddio sydd yn y cladd, sydd yn awgrymu nad y chwareli oedd wedi ei godi.
Ar un adeg, fel mae'n ymddangos ar fap Ordnans 1888, roedd y llyn yn ymestyn dros fwy o dir ac arochr dde-orllewinol y llyn mae clawdd neu sarn ar draws y man lle mae Afon Garth yn llifo o'r llyn, er bod peth tir rhwng y clawdd a'r llyn ei hun erbyn hyn. Gellid cymeryd bod hyn yn arwydd o greu dam isel ar un adeg er mwyn dargyfeirio dŵr i chwarel gerllaw, neu gadw'r tir islaw yn sych er nad yw'r pwrpas yn eglur erbyn heddiw. Cerrig lleol ac nid llechi wedi eu cloddio sydd yn y cladd, sydd yn awgrymu nad y chwareli oedd wedi ei godi.<ref>Map Ordnans 1888 ac archwiliad mewn person</ref>
 
==Chwedl Llyn Ffynhonnau==
 
Stori a adroddir yn lleol yw'r un am fab fferm Gelli Ffrydiau yn [[Nantlle]] a welodd y tylwyth teg yn dawnsio, yn canu ac yn chwarae'r ffidil ar lan Llyn Ffynhonnau. Ymunodd yn yr hwyl, a'i gŵn hefyd, ac yno fuon nhw am tridiau a thair noson nes i rywun ddod i'w hachub. Amrywiad ar y stori'n honni mai bugail a welodd y tywyth teg wrthi, ond wrth fynd yn rhy agos atynt cafodd lond ei lygaid o lwch.
 
Mae'r storîau hyn, yn eu hanfod, yn debyg iawn i storiau sy'n cael eu hadrodd am lawer i le ar draws Ewrop, ac yn debyg o fod (yn eu hanfod) yn hynafol iawn, wedi eu haddasu at ardal benodol.<ref>Geariant Thomas, ''Cyfrinachau Llynnoedd Eryri'' (Tal-y-bont, 2011), t.48</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 18:53, 8 Tachwedd 2020

Llyn Ffynhonnau gyda llethrau Mynydd Mawr ar y dde

Llyn Ffynhonnau yw tarddiad Afon Garth sydd yn rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf. Mae'r llyn mewn pant bach ar waelod llethrau gorllewinol Mynydd Mawr neu'r "Mynydd Grug", i'r dde o'r bwlch sydd yn croesi o bentref Y Fron i Glogwyn Cellog a Betws Garmon. Yn groes i lawer o lynnoedd Eryri, nid yw hwn yn llyn a ffurfiwyd ar ddiwedd Oes y Iâ mewn cwm rhewlifol, ond yn hytrach yn llyn mewn pant yn y mawndir. Ym 1888, roedd yn ymestyn dros 5.3 o erwau.

Ar un adeg, fel mae'n ymddangos ar fap Ordnans 1888, roedd y llyn yn ymestyn dros fwy o dir ac arochr dde-orllewinol y llyn mae clawdd neu sarn ar draws y man lle mae Afon Garth yn llifo o'r llyn, er bod peth tir rhwng y clawdd a'r llyn ei hun erbyn hyn. Gellid cymeryd bod hyn yn arwydd o greu dam isel ar un adeg er mwyn dargyfeirio dŵr i chwarel gerllaw, neu gadw'r tir islaw yn sych er nad yw'r pwrpas yn eglur erbyn heddiw. Cerrig lleol ac nid llechi wedi eu cloddio sydd yn y cladd, sydd yn awgrymu nad y chwareli oedd wedi ei godi.[1]

Chwedl Llyn Ffynhonnau

Stori a adroddir yn lleol yw'r un am fab fferm Gelli Ffrydiau yn Nantlle a welodd y tylwyth teg yn dawnsio, yn canu ac yn chwarae'r ffidil ar lan Llyn Ffynhonnau. Ymunodd yn yr hwyl, a'i gŵn hefyd, ac yno fuon nhw am tridiau a thair noson nes i rywun ddod i'w hachub. Amrywiad ar y stori'n honni mai bugail a welodd y tywyth teg wrthi, ond wrth fynd yn rhy agos atynt cafodd lond ei lygaid o lwch.

Mae'r storîau hyn, yn eu hanfod, yn debyg iawn i storiau sy'n cael eu hadrodd am lawer i le ar draws Ewrop, ac yn debyg o fod (yn eu hanfod) yn hynafol iawn, wedi eu haddasu at ardal benodol.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. Map Ordnans 1888 ac archwiliad mewn person
  2. Geariant Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri (Tal-y-bont, 2011), t.48