Rheilffordd Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Dull tyrpeg oedd dull rhedeg y lein, gyda'r hawl i unrhyw un osod wagen ar y cledrau a'i symud yn unol â'r amserlen, ond iddo/i dalu'r doll ddyledus. Erbyn y diwedd, ym 1963, dim ond Chwareli Pen-yr-orsedd a Dorothea oedd yn arddel perchnogaeth ar eu wagenni. Trefnwyd yr amserlen fel na fyddai wagenni yn cwrdd â'i gilydd, trwy ganiatáu i drenau fynd i lawr i Gaernarfon am dair awr, ac wedyn cafwyd tair awr oan fyddai trenau'n cael rhedeg i fyny'r lein i gyfeiriad Nantlle; ac felly ymlaen.

Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur garw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar waagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y'u gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Cul yn Nhywyn.  
Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur garw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar waagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y'u gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.  

Roedd nifer helaeth o ganghennau a thramffyrdd yn ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle yn arwain at y gwahanol chwareli, er, y tu fewn i'r chwareli, defnyddid wagenni ar gledrau culach (sef tua 2'0") er mwyn cyrraedd y ponciau a'r silffoedd culion ar ymyl y tyllau chwarel. Yr unig gangen o sylwedd oedd [[Tramffordd Chwarel Tan'rallt]]. Rhestrir chwareli eraill oedd â thrac 3'6" ac a gysylltwyd â phrif lein Rheilffordd Nantlle yn erthygl [[Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle]].  

Fersiwn yn ôl 16:02, 24 Tachwedd 2017

Yr oedd Rheilffordd Nantlle yn rhedeg o Gei Caernarfon hyd at chwareli Dyffryn Nantlle. Hi oedd y rheilffordd gyntaf gyhoeddus i'w hagor yng Ngogledd Orllewin Cymru dan ddeddf seneddol, a hynny ym 1828.

Y lled rhwng y cledrau oedd 3'6". Er bod awgrym yma ac acw bod pobl yn cael eu cludo trwy eistedd ar wagenni nwyddau, dim ond o 1856 ymlaen sefydlwyd gwasanaethau swyddogol i deithwyr, gan ddyn a gymerodd brydles ar y lein y pryd hynny, sef Edward Preston. Parhaodd hynny nes iddi gael ei phrynu gan hyrwyddwyr Rheilffordd Sir Gaernarfon tua 1863, a'r rhan helaeth o'r trac yn cael ei ledu i'r lled safonol o 4'8 1/2". Mae yna amheuon gref mai dyna oedd nod ac uchelgais Preston ers iddo gymryd at yr awennau. Roedd y lein yn mynd o giât Chwarel lechi Pen-yr-orsedd ger Resdai Nantlle, trwy'r hyn sydd yn weddill o Chwarel lechi Dorothea heddiw, ymlaen wrth ochr brif stryd Tal-y-sarn ac o'r fan honno ar hyd lein yr hyn a fyddai lein fawr wedyn at y cei yng Nghaernarfon. Mae mopdd dilyn yr union lwybr yn hawdd wrth gerdded Lôn Eifion. Arhosai ychydig o'r lein o Orsaf Nantlle (yn Nhal-y-sarn) hyd at y chwareli llechi a wasanaethid ganddi hyd yr 1960au. Ceffylau oedd yn tynnu'r wagenni trwy gydol oes y lein, a dyna'r unig lein o eiddo Rheilffyrdd Prydeinig i gael ei weithio yn y fath fodd erbyn hynny.

Dull tyrpeg oedd dull rhedeg y lein, gyda'r hawl i unrhyw un osod wagen ar y cledrau a'i symud yn unol â'r amserlen, ond iddo/i dalu'r doll ddyledus. Erbyn y diwedd, ym 1963, dim ond Chwareli Pen-yr-orsedd a Dorothea oedd yn arddel perchnogaeth ar eu wagenni. Trefnwyd yr amserlen fel na fyddai wagenni yn cwrdd â'i gilydd, trwy ganiatáu i drenau fynd i lawr i Gaernarfon am dair awr, ac wedyn cafwyd tair awr oan fyddai trenau'n cael rhedeg i fyny'r lein i gyfeiriad Nantlle; ac felly ymlaen.

Roedd olwynion y wagenni ag ymylon dwbl, gan fod y trac yn bur garw, er mwyn iddynt beidio â neidio oddi ar y cledrau. Nodwedd cyffredin ar waagenni chwareli oedd hyn, ond yn bur anarferol y'u gwelwyd hwy ar lein cyn hired â Rheilffordd Nantlle. Mae enghreifftiau o wagenni Nantlle i'w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.

Roedd nifer helaeth o ganghennau a thramffyrdd yn ardaloedd Tal-y-sarn a Nantlle yn arwain at y gwahanol chwareli, er, y tu fewn i'r chwareli, defnyddid wagenni ar gledrau culach (sef tua 2'0") er mwyn cyrraedd y ponciau a'r silffoedd culion ar ymyl y tyllau chwarel. Yr unig gangen o sylwedd oedd Tramffordd Chwarel Tan'rallt. Rhestrir chwareli eraill oedd â thrac 3'6" ac a gysylltwyd â phrif lein Rheilffordd Nantlle yn erthygl Tramffyrdd chwareli llechi Dyffryn Nantlle.

Ymysg y gorsafoedd i deithwyr roedd Y Bontnewydd, Clynnog Road (Llanwnda), Y Groeslon a Phen-y-groes.