Arfon (etholaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac [[Eifion (etholaeth)]]. Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai. | Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac [[Eifion (etholaeth)]]. Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai. | ||
Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau [[Caernarfon (etholaeth)|Caernarfon]] a Chonwy. Ym 2010, cafwyd ail-drefnu pellach a ffurfiwyd etholaeth newydd Arfon. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a Nantlle, yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]].<ref>Erthygl | Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau [[Caernarfon (etholaeth)|Caernarfon]] a Chonwy. Ym 2010, cafwyd ail-drefnu pellach a ffurfiwyd etholaeth newydd Arfon. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a Nantlle, yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]].<ref>Erthygl Wicipedia ar Etholaeth Arfon, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Arfon_(etholaeth_seneddol)], cyrchwyd 6.5.2020</ref> Heblaw am ddwy etholaeth yn yr Alban, dyna yw etholaeth leiaf o ran poblogaeth trwy wledydd Prydain. O'r dechrau, [[Hywel Williams]] oedd, ac yw, yr aelod Seneddol. [[Sian Gwenllian]] yw'r aelod yn Senedd Cymru. | ||
Mae sôn (2020) bod ffiniau etholaethau yn mynd i newid eto yn fuan, ac y tebygrwydd bydd Bangor hefyd o fewn yr etholaeth gan y bydd y ddeddfwraieth yn gofyn am etholaethau sydd yr un faint o ran nifer yr etholwyr. | Mae sôn (2020) bod ffiniau etholaethau yn mynd i newid eto yn fuan, ac y tebygrwydd bydd Bangor hefyd o fewn yr etholaeth gan y bydd y ddeddfwraieth yn gofyn am etholaethau sydd yr un faint o ran nifer yr etholwyr. |
Fersiwn yn ôl 08:42, 6 Mai 2020
Arfon yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o Uwchgwyrfai.
Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir (Sir Gaernarfon) oedd yn cynnwys pob man o Lithfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Caernarfon (sedd a gynrychiolid gan David Lloyd George ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno.
Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac Eifion (etholaeth). Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai.
Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau Caernarfon a Chonwy. Ym 2010, cafwyd ail-drefnu pellach a ffurfiwyd etholaeth newydd Arfon. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a Nantlle, yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.[1] Heblaw am ddwy etholaeth yn yr Alban, dyna yw etholaeth leiaf o ran poblogaeth trwy wledydd Prydain. O'r dechrau, Hywel Williams oedd, ac yw, yr aelod Seneddol. Sian Gwenllian yw'r aelod yn Senedd Cymru.
Mae sôn (2020) bod ffiniau etholaethau yn mynd i newid eto yn fuan, ac y tebygrwydd bydd Bangor hefyd o fewn yr etholaeth gan y bydd y ddeddfwraieth yn gofyn am etholaethau sydd yr un faint o ran nifer yr etholwyr.