Gorsaf reilffordd Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18: Llinell 18:
[[Categori: Rheilffordd Nantlle]]
[[Categori: Rheilffordd Nantlle]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]]

Fersiwn yn ôl 19:11, 23 Tachwedd 2017

Yn wreiddiol, roedd gorsaf Y Groeslon yn arosfan ar lein Rheilffordd Nantlle, ac yn sicr bu tramiau a dynnid gan geffyl yn galw yma o 1856 hyd 1863. Mae'n bosibl fod yn hen adeilad ger y gilfach fysiau wrth ochr tafarn y Pen-nionyn wedi cael ei adeiladu fel gorsaf gan Reilffordd Nantlle; mae gan yr adeilad rai nodweddion debyg i olion orsaf Bontnewydd.

Codwyd gorsaf newydd pan agorwyd y lein fawr yr ochr arall i'r lôn a arweiniodd o'r groesffordd i gyfeiriad Glynllifon, gan ffurfio croesfan ar y lefel. Hon oedd y drydedd orsaf ar ôl Caernarfon ar lein Caernarfon - Afon-wen, milltir a 200 llath ar ôl gorsaf Llanwnda a bron i 2 filltir cyn cyrraedd gorsaf Pen-y-groes. Fe'i hagorwyd ym 1867 a chan fod yr orsaf yn gwasanaethu nid pentref Y Groeslon yn unig ond hefyd pentrefi Carmel, Y Fron a'r wlad o'u cwmpas, roedd yn orsaf brysur ar gyfer teithwyr. Gallai trenau basio ei gilydd yma, ac mae olion y ddau blatfform i'w gweld o hyd. Roedd y platfform yn isel ar ochr y ffordd fawr a rhaid i deithwyr wrth set o stepiau bach i gyrraedd y cerbydau'n ddiogel.

Adeilad bach unllawr wedi ei adeiladu yn null cwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon oedd yr orsaf, ond fe ddymchwelwyd yn fuan wedi i'r lein gau.

Roedd un seidin ar gyfer dadlwytho glo a nwyddau eraill. Nid oedd yno focs signalau, ac roedd liferau'r signalau a'r pwyntiau yn agored i'r tywydd ar y platfform. Mae rhan o blatfform (yn cynnwys yr ochr a ddefnyddid i ddadlwytho nwyddau o dryciau a faniau rheilffordd) yn dal i'w gweld ger y blychau ail-gylchu yn y maes parcio modern a adeiladwyd ar safle'r hen iard nwyddau.

Ychydig i'r de o'r orsaf gwelir murddun cwt gweithwyr y lein.

Galwyd Y Groeslon yn 'Groeslon RSO' - ystyr RSO yw Swyddfa Ddidoli'r Rheilffordd - nid fod dim o eiddo'r rheilffordd yn cael ei ddidoli, ond yn hytrach oherwydd yr holl bost a gyrhaeddai'r orsaf ar y trên ac a ddanfonid oddi yno o'r ardaloedd cyfagos.

Fe gaewyd yr orsaf gyda gweddill y lein ym 1964.

Ffynonellau

  • LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), t.78.