Ystrwyth ab Ednywain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Ystrwyth ab Ednowain''' - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu ac yn benteulu Teulu Glynllifon yn yr 13...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ystrwyth ab Ednowain''' - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] ac yn benteulu [[Teulu Glynllifon]] yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr. Dyma'r adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn yr ardal a ddaeth yn blwyf [[Llandwrog]].<ref>W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref>
Roedd '''Ystrwyth ab Ednowain''' (c1180 - c1225) - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] ac yn benteulu [[Teulu Glynllifon]] yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr.  
 
Credir mai distain (sef un o brif swyddogion y llys) oedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) yn llys Llywelyn Fawr, a fo, mae'n debyg, oedd sylfaenydd llinach teulu'r Glynniaid, [[Lleuar Fawr]] a [[Glynllifon]]. Cafodd ei eni yn ôl rhai ffynonellau yn Lleuar<ref>''Ancestry.co.uk'', [https://www.ancestry.co.uk/genealogy/records/ystrwyth-ap-ednowain_35461571?geo_a=r&geo_s=ca&geo_t=uk&geo_v=2.0.0&o_iid=41016&o_lid=41016&o_sch=Web+Property], adalwyd 19.07.2018</ref>. Roedd o'n ddisgynydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] yn ôl achresi'r Canol Oesoedd, a'i dad yn Ednywain ap Gwrydyr ap Dyfnaint ap Iddon ap Iddig ap Lleon ap Cilmin Droed-ddu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.172</ref> Rhaid, fodd bynnag, bwysleisio bod yr achresi hyn yn gymysgedd o ffaith, chwedl a dychymyg.
 
Roedd ganddo (neu mi dderbyniodd) hawliau i diroedd yn nhrefgorff [[Dinlle]] a adnabyddid fel ''Gafael Wyrion Ystrwyth'' maes o law, a dyna yn ôl pob tebyg sylfaen yr ystadau a grynhowyd yn y 16g gan y teulu. (Yr oedd gor-hen-daid [[William Glynn (Glynllifon)]], [[Tudur Goch ap Grono]], yn un o ''briodorion'' neu ddeiliaid tir Gafael Wyrion Ystrwyth, ym 1352).<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records'', (Caernarfon, 1956), t.248.</ref> Y 12-13g. oedd yr adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn ardal trefgordd [[Dinlle]].<ref>W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref>
 
Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednywain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6</ref> Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin Ioan o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld ym esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn a Helen, merch Llywelyn.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685</ref>
 
Un broblem sy'n codi o gysylltu "Magister Ystrwyth" ac Ystrwyth ab Ednywain yw'r ffaith fod Magister Ystrwyth yn ôl pob tebyg yn offeiriad o ryw fath, ond eto mae'r achresi'n gytun fod Ystrwyth ab Ednywain yn dad i Iorwerth Goch - er nad oedd y fath beth ag offeiriad hefyd yn cael bywyd teuluol yn hollol anghyfarwydd yn y Canol Oesodd. Nes i ryw ffaith newydd ddod i'r golwg, fodd bynnag, dichon ei fod yn ddigon teg credu mai Ystrwyth dyn y llys ac Ystrwyth ab Ednywain, tad Iorwerth Goch yn un person.


Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednowain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6</ref> Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin Ioan o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld ym esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn a Helen, merch Llywelyn.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685</ref>


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 10:09, 14 Ebrill 2020

Roedd Ystrwyth ab Ednowain (c1180 - c1225) - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu ac yn benteulu Teulu Glynllifon yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr.

Credir mai distain (sef un o brif swyddogion y llys) oedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) yn llys Llywelyn Fawr, a fo, mae'n debyg, oedd sylfaenydd llinach teulu'r Glynniaid, Lleuar Fawr a Glynllifon. Cafodd ei eni yn ôl rhai ffynonellau yn Lleuar[1]. Roedd o'n ddisgynydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu yn ôl achresi'r Canol Oesoedd, a'i dad yn Ednywain ap Gwrydyr ap Dyfnaint ap Iddon ap Iddig ap Lleon ap Cilmin Droed-ddu.[2] Rhaid, fodd bynnag, bwysleisio bod yr achresi hyn yn gymysgedd o ffaith, chwedl a dychymyg.

Roedd ganddo (neu mi dderbyniodd) hawliau i diroedd yn nhrefgorff Dinlle a adnabyddid fel Gafael Wyrion Ystrwyth maes o law, a dyna yn ôl pob tebyg sylfaen yr ystadau a grynhowyd yn y 16g gan y teulu. (Yr oedd gor-hen-daid William Glynn (Glynllifon), Tudur Goch ap Grono, yn un o briodorion neu ddeiliaid tir Gafael Wyrion Ystrwyth, ym 1352).[3] Y 12-13g. oedd yr adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn ardal trefgordd Dinlle.[4]

Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednywain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.[5] Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin Ioan o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld ym esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn a Helen, merch Llywelyn.[6]

Un broblem sy'n codi o gysylltu "Magister Ystrwyth" ac Ystrwyth ab Ednywain yw'r ffaith fod Magister Ystrwyth yn ôl pob tebyg yn offeiriad o ryw fath, ond eto mae'r achresi'n gytun fod Ystrwyth ab Ednywain yn dad i Iorwerth Goch - er nad oedd y fath beth ag offeiriad hefyd yn cael bywyd teuluol yn hollol anghyfarwydd yn y Canol Oesodd. Nes i ryw ffaith newydd ddod i'r golwg, fodd bynnag, dichon ei fod yn ddigon teg credu mai Ystrwyth dyn y llys ac Ystrwyth ab Ednywain, tad Iorwerth Goch yn un person.


Cyfeiriadau

  1. Ancestry.co.uk, [1], adalwyd 19.07.2018
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.172
  3. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
  4. W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
  5. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6
  6. J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685