Capel Tal-y-sarn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
===Yr ail gapel===
===Yr ail gapel===


Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis [[Tal-y-mignedd]], ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog [[John Jones, Tal-y-sarn]] a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger [[Gloddfa'r Coed]] yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.
Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis [[Tal-y-mignedd]], ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog [[John Jones, Tal-y-sarn]] a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel [[Cloddfa'r Coed]] yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.


Noda [[William Hobley]] fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, [[Eben Fardd]], nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:  
Noda [[William Hobley]] fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, [[Eben Fardd]], nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:
::::::''Wele ein capel newydd - hylaw''   
::::::::''Helaeth a chelfydd.'' 
:::::::''Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd''
:::::::''Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd''."''
:::::::::::::William Hughes, Tŷn y werglodd
 
::::::''Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn''   
::::::::''a chynnal ddysgeidiaeth,'' 
:::::::''A lle'r addoli ddaeth''
:::::::''Digon i'r holl gymdogaeth''."''
:::::::::::::William Owen, Hafodlas


===Canghennau===
===Canghennau===

Fersiwn yn ôl 12:09, 5 Ebrill 2020

Addoldy Methodistaidd ym mhentref Tal-y-sarn yw Capel Tal-y-sarn (MC). Fe elwir yn gyffredinol yr adeilad presennol yn "Capel Mawr", gan ei fod yn cynnwys eisteddleoedd i 700. Erbyn hyn mae wedi cau, er yn dal i sefyll.

Agoriad a'r capel cyntaf

Agorwyd y Capel ei hun ym mis Awst 1821. Dyma oedd ail gangen i gael ei ffurfio allan o gapel Llanllyfni. Cyn sefydlu'r capel mewn adeilad, roedd pregethu wedi bod ar aelwyd Gelliffrydiau ac yn y Ffridd. Ar ôl peth drafferth, cafwyd tir y gellid adeiladu arno mewn llecyn braf o fewn golwg yr holl ddyffryn - er, ers cant a hanner o flynyddoedd, mae'r safle dan domen rwbel anferth.

Erbyn 1826, roedd yr adeilad angen ei helaethu a gosodwyd llofft neu galeri yno. Aeth yr achos o nerth i nerth, gan ddenu rhai o lethrau Dyffryn Nantlle. Arferid cynnal gwasanaethau ar fore Sul mewn tai yma ac acw, gyda'r gynulleidfa'n dod at ei gilydd yn y capel bob nos Sul. Aeth yr achos o nerth i nerth, gyda chyfarfodydd dirwest llywyddiannus iawn, a sefydlu Cymdeithas y Rechabiaid yno yn 1841. YM 1840, profwyd diwygiad ymysg merched y capel.

Yr ail gapel

Teimlid fod rhaid codi capel mwy, a dewiswyd safle yn bellach i'r gorllewin ar ochr y dyffryn (yn groes i ddymuniadau'r aelodau oedd yn ffermio mannau megis Tal-y-mignedd, ond y ddadl a orfu oedd honno o eiddo'r enwog John Jones, Tal-y-sarn a Hugh Jones, Coedmadog, sef bod y safle newydd ger chwarel Cloddfa'r Coed yn fwy diogel ac yn llai debygol o gael ei gladdu gan domenydd rwbel. Dyma safle'r capel hyd heddiw (er bod capel newydd eto wedi ei godi ar y safle -gweler isod). Fe'i agorwyd 23 Fehefin 1852, gyda lle i 350 eistedd, ar gost o £700. Maint y capel oedd 42' wrth 42'.

Noda William Hobley fod cyfarfod cystadleuol wedi ei gynnal yn yr ardal ar y pryd, gyda'r capel newydd yn destun. Teimlai'r beirniad, Eben Fardd, nad oedd neb yn deilwng o'r wobr, ond ymysg y goreuon caed y canlynol:

Wele ein capel newydd - hylaw
Helaeth a chelfydd.
Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd."
William Hughes, Tŷn y werglodd
Ystafell hwylus a helaeth – a ennyn
a chynnal ddysgeidiaeth,
A lle'r addoli ddaeth
Digon i'r holl gymdogaeth."
William Owen, Hafodlas

Canghennau

Erbyn 1837, roedd digon o aelodau o ardal Y Fron i gychwyn cangen-eglwys, gyda'r enw Cesarea, ac aeth 12 o aelodau Capel Tal-y-sarn yno. Ym 1849, gwnaed yr un peth yn y Cilgwyn trwy sefydlu ysgol yno, er i honno yn y man fynd yn Capel Cilgwyn (A) gapel i'r Annibynwyr. [1].


Blaenoriaid

Penodwyd Robert Griffith, blaenor yn Llanllyfni yn y lle cyntaf, ond ym 1830 codwyd un Robert Dafydd, aelod o'r capel yn Nhal-y-sarn, i fod yn flaenor.


John Jones Talysarn

Mae'r capel yn gysylltiedig â hanes John Jones, Tal-y-sarn, gan mai yma y sefydlodd y pregethwr enwog enw iddo'i hun fel un o weinidogion pwysicaf ei gyfnod. Daeth yn y lle cyntaf i'r capel ar ddiwedd 1822, gan bregethu yno 31 Rhagfyr.


Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 187