Teulu Plas Newydd (Glynllifon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i [[Cilmin Droed-ddu]] oedd '''teulu Plas Newydd'''. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym [[Plas Newydd, Llandwrog| | Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i [[Cilmin Droed-ddu]] oedd '''teulu Plas Newydd'''. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym [[Plas Newydd, Llandwrog|Mhlas Newydd]], Llandwrog yn gangen arall o [[Teulu Glynn (Glynllifon)|deulu'r Glyniaid o Lynllifon]], ac roeddynt wedi ymgartrefu yn [[Llandwrog]] ar ôl symud o’u cartref cynharach yn Nantlle. | ||
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei feibion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o’r Nantlle, a briododd â Jane Griffith merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i [[Plas Newydd (Glynllifon)|Blas Newydd]] o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro. | Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei feibion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o’r Nantlle, a briododd â Jane Griffith merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i [[Plas Newydd (Glynllifon)|Blas Newydd]] o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro. |
Fersiwn yn ôl 09:04, 27 Mawrth 2020
Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i Cilmin Droed-ddu oedd teulu Plas Newydd. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym Mhlas Newydd, Llandwrog yn gangen arall o deulu'r Glyniaid o Lynllifon, ac roeddynt wedi ymgartrefu yn Llandwrog ar ôl symud o’u cartref cynharach yn Nantlle.
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei feibion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o’r Nantlle, a briododd â Jane Griffith merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i Blas Newydd o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro.
Ffynonellau
- Griffith, J. E. The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families (Llundain, 1914)