Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
O ddeg band Cwmwd [[Uwchgwyrfai]], dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd. | O ddeg band Cwmwd [[Uwchgwyrfai]], dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd. | ||
[[Band Trefor]] (sefydlwyd ym 1863) a [[Band Nantlle]] (sefydlwyd ym 1865). | [[Band Trefor]] (sefydlwyd ym 1863) a [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle|Band Nantlle]] (sefydlwyd ym 1865). | ||
[[Categori:Bandiau]] | [[Categori:Bandiau]] |
Fersiwn yn ôl 09:58, 8 Mawrth 2020
Dyma restr (yn nhrefn yr wyddor) o enwau Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai (bandiau pres) a fu neu sydd mewn bodolaeth ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg :
1. Deulyn (Baladeulyn)
2. Dolydd
3. Dulyn (Nebo)
4. Ceidwadwyr Pen-y-groes
5. Gwirfoddolwyr Pen-y-groes
6. Moeltryfan (Rhosgadfan)
7. Nantlle (Tal-y-sarn)
8. Llyfnwy (Llanllyfni)
9. Trefor
10. Uwchllifon (Carmel)
Diflannodd Dolydd, Dulyn, dau fand Pen-y-groes ac Uwchllifon, cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Diflannodd Deulyn a Llyfnwy yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Diflannodd Cadfan ym 1947 wedi iddo ymuno â Seindorf Dyffryn Nantlle i gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn y flwyddyn honno dan arweiniad Alf Henderson, Nantlle.
O ddeg band Cwmwd Uwchgwyrfai, dau yn unig sy'n dal yn fyw ac yn ymarfer yn gyson - dau fand sydd bron iawn yr un oedran, ac fel mae'n digwydd, dau fand hyna'r cwmwd.
Band Trefor (sefydlwyd ym 1863) a Band Nantlle (sefydlwyd ym 1865).