R. Alun Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Roedd hefyd yn uchel-siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Cyhoeddodd ''Welsh Homespun'' (1930), gwaith arloesol ar hanes amaethyddol a gwledig Cymru trwy'r oesoedd; ''Y Tir a’i gynnyrch'' (1932), un o gyfres o lyfrau gan Wasg Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer dosbarthiadau oedolion yn bennaf; a ''Hafodydd Brithion'' (1947), casgliad o ysgrifau ar yr amgylchedd, bywyd gwledig a byd natur. Cyhoeddwyd hefyd nifer o'i ddarlithoedd ar fywyd gwledig. | Roedd hefyd yn uchel-siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Cyhoeddodd ''Welsh Homespun'' (1930), gwaith arloesol ar hanes amaethyddol a gwledig Cymru trwy'r oesoedd; ''Y Tir a’i gynnyrch'' (1932), un o gyfres o lyfrau gan Wasg Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer dosbarthiadau oedolion yn bennaf; a ''Hafodydd Brithion'' (1947), casgliad o ysgrifau ar yr amgylchedd, bywyd gwledig a byd natur. Cyhoeddwyd hefyd nifer o'i ddarlithoedd ar fywyd gwledig. | ||
Cofnododd galedi bywyd y tyddynnwr chwarelwr | Cofnododd galedi bywyd y tyddynnwr chwarelwr yn Nyffryn Nantlle: | ||
''Bywyd caled ac eithaf llym ydoedd. Wedi gloywder eithriadol ar y tir o tua 1850 i 1870 daeth dirwasgiad mawr a barhaodd o 1870 hyd ddechrau'r ganrif hon - yn dechrau gloywi tua blwyddyn y diwygiad yn 1904-5. Mae gennyf un co' arbennig am fy nhad yn gwerthu buwch dew i'r hen William Roberts, Tyddyn Hen, tua thro'r ganrif, ac wedi bargeinio'n galed am y trydydd cynnig yn taro'r fargen am "rôt a thair ffyrling a chwidlin y pwys." "One sixteenth of a penny" oedd chwidlin, a deall yn ddiweddarach gan Syr Ifor Williams mai llygriad o "whitling" o'r Saesneg oedd y gair, sef y mân lwch yr arferid ei grafu gyda darn o wydr wrth lyfnhau pren, megis bagl ffon, ydoedd. Bargeinio am chwidlin y pwys gan fod yr amser mor enbyd!'' | |||
Llinell 24: | Llinell 23: | ||
*Williams, Melfyn R. ''Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts'' (Lolfa, 1977) | *Williams, Melfyn R. ''Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts'' (Lolfa, 1977) | ||
*Roberts, R. Alun Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 1968 | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 18:02, 22 Chwefror 2020
Athro llysieueg ac amaethyddiaeth, a naturiaethwr oedd R. Alun Roberts (1894-1969).
Fe'i ganwyd yn Glan Gors, Tan-yr-allt, Dyffryn Nantlle i Robert Roberts (brawd Owen, tad i Kate Roberts) a Jane Thomas ei wraig.
Graddiodd â BSc gydag anrhydedd yn 1915, a chwblhaodd PhD yn 1927. Roedd yn athro gwyddoniaeth am gyfnod yn Ysgol Botwnnog (1915-1917), ac roedd yn gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth o 1917-1919. Roedd yn ymgynghori ar lysieueg ac amaeth iddynt hyd nes 1921. Cafodd swydd fel darlithydd, ac yna fel pennaeth adran yn adran amaeth Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen wedyn i fod yn Arolygydd ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig.
Roedd hefyd yn uchel-siryf Caernarfon rhwng 1955 a 1956. Derbyniodd CBE yn 1962 am ei gyfraniad at amaethyddiaeth. Cyhoeddodd Welsh Homespun (1930), gwaith arloesol ar hanes amaethyddol a gwledig Cymru trwy'r oesoedd; Y Tir a’i gynnyrch (1932), un o gyfres o lyfrau gan Wasg Prifysgol Cymru a gyhoeddwyd ar gyfer dosbarthiadau oedolion yn bennaf; a Hafodydd Brithion (1947), casgliad o ysgrifau ar yr amgylchedd, bywyd gwledig a byd natur. Cyhoeddwyd hefyd nifer o'i ddarlithoedd ar fywyd gwledig.
Cofnododd galedi bywyd y tyddynnwr chwarelwr yn Nyffryn Nantlle:
Bywyd caled ac eithaf llym ydoedd. Wedi gloywder eithriadol ar y tir o tua 1850 i 1870 daeth dirwasgiad mawr a barhaodd o 1870 hyd ddechrau'r ganrif hon - yn dechrau gloywi tua blwyddyn y diwygiad yn 1904-5. Mae gennyf un co' arbennig am fy nhad yn gwerthu buwch dew i'r hen William Roberts, Tyddyn Hen, tua thro'r ganrif, ac wedi bargeinio'n galed am y trydydd cynnig yn taro'r fargen am "rôt a thair ffyrling a chwidlin y pwys." "One sixteenth of a penny" oedd chwidlin, a deall yn ddiweddarach gan Syr Ifor Williams mai llygriad o "whitling" o'r Saesneg oedd y gair, sef y mân lwch yr arferid ei grafu gyda darn o wydr wrth lyfnhau pren, megis bagl ffon, ydoedd. Bargeinio am chwidlin y pwys gan fod yr amser mor enbyd!
Ffynhonellau
- Williams, Melfyn R. Doctor Alun, Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts (Lolfa, 1977)
- Roberts, R. Alun Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, 1968