George Farren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''George Farren''' (1836-1901) yn reolwr [[Chwarel yr Eifl]], [[Trefor]]. Fe gafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, ar oleudy Hanois ar Ynys Geurnsey, ac ar strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. ) 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).

Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ac yn y man fe ddaeth yn Reolwr Cyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd chwareli'r cwmni ger [[Trefor]] yn gyflym dan ei reolaeth. Fo oedd yn gyfrifol am adeiladu [[Harbwr Trefor]] lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho, am adeiladu system o 5 inclèin, ryw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stem y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu [[Pentref model Trefor|pentref Trefor]], yr oedd y cyn reolwr [[Trefor Jones]] wedi dechrau arno, ynghyd ag eglwys ac ysgol, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref.
Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ac yn y man fe ddaeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd chwareli'r cwmni ger [[Trefor]] yn gyflym dan ei reolaeth. Fo oedd yn gyfrifol am adeiladu [[Harbwr Trefor]] lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho, am adeiladu system o 5 inclèin, ryw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stem y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu [[Pentref model Trefor|pentref Trefor]], yr oedd y cyn reolwr [[Trefor Jones]] wedi dechrau arno, ynghyd ag eglwys ac ysgol, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref.

Tua 1895, dyluniodd waith Chwarel y gwylwyr, yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.
Tua 1895, dyluniodd waith Chwarel y gwylwyr, yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.
Llinell 9: Llinell 9:
Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir mor bell â [[Clynnog Fawr|Chlynnog]]. Roedd yn gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd ar Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i godwyd yn Uchel Siryf [[Sir Gaernarfon]].

fe'i gydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn 0 1896 y,laen.
fe'i gydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn 0 1896 ymlaen.

Erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.<ref>Prif ffynhonell yr erthygl hon yw Nodyn Cofiannol gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, 1901, tt.314-15[https://www.icevirtuallibrary.com/doi/pdf/10.1680/imotp.1901.18850]</ref>

Fersiwn yn ôl 10:08, 20 Chwefror 2020

Roedd George Farren (1836-1901) yn reolwr Chwarel yr Eifl, Trefor. Fe gafodd ei eni yn Llundain, yn fab hynaf bargyfreithiwr, yntau'n George Farren. Ar ôl derbyn hyfforddiant i fod yn bensaer, cafodd ei benodi gan gwmni adeiladu mawr Freeman, gan fod yn gyfrifol am y gwaith cerrig yn Nociau Surrey, ar oleudy Hanois ar Ynys Geurnsey, ac ar strwythurau ar Reilffordd Ymestynnol Gorllewin Llundain. ) 1863 hyd 1867, cafodd waith fel rheolwr cyffredinol a pheiriannydd Cwmni Ithfaen Ynys Wair (Lundy).

Ym 1868, cafodd swydd debyg gan y Cwmni Ithfaen Cymreig ac yn y man fe ddaeth yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni hwnnw. Datblygodd chwareli'r cwmni ger Trefor yn gyflym dan ei reolaeth. Fo oedd yn gyfrifol am adeiladu Harbwr Trefor lle gellai llongau stêm o hyd at 500 tunelledd lwytho, am adeiladu system o 5 inclèin, ryw 1880 llath o hyd i gyd, a gweithdy i drwsio a chynnal peiriannau ac injans stem y cwmni. Datblygodd ymhellach y gwaith o adeiladu pentref Trefor, yr oedd y cyn reolwr Trefor Jones wedi dechrau arno, ynghyd ag eglwys ac ysgol, a gosod traeniau effeithiol trwy'r pentref.

Tua 1895, dyluniodd waith Chwarel y gwylwyr, yn cynnwys glanfa yn rhedeg i'r môr a thramffordd.

Dywedir iddo fod yn reolwr da ar ei ddynion, a chymerai ddiddordeb yn eu lles nhw a lles eu teuluoedd. Enwyd stryd yn Nhrefor, Stryd Farren, ar ei ôl.

Chwaraeodd hefyd ran gyhoeddus yn yr ardal ehangach. Bu'n aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon (yr oedd ei hawdurdod yn ymestyn ar hyd yr arfordir mor bell â Chlynnog. Roedd yn gynghorydd sir o'i gychwyn ym 1888 hyd ei farwolaeth, ac yn gadeirydd ar Pwyllgor Rheilffyrdd Ysgeifn y cyngor sir. Gwasanaethodd fel ynad heddwch am flynyddoedd lawer, gan orffen fel prif ynad y fainc. Ym 1899, fe'i godwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon.

fe'i gydnabuwyd gan ei broffesiwn: roedd yn aelod o Gymdeithas Beirianyddol Lerpwl, ac yn gadeirydd ar honno ym 1897. Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Ystadegol. Roedd yn aelod cysylltiol o Sefydliad y Peirianwyr Sifil o 1868 ymlaen, ac yn aelod llawn 0 1896 ymlaen.

Erbyn ei farwolaeth ar 10 Ebrill 1901, roedd yn byw yn Nhrefenai, Caernarfon.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Prif ffynhonell yr erthygl hon yw Nodyn Cofiannol gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, 1901, tt.314-15[1]