Chwarel Craig y Farchas, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Chwarel Craig y Farchas]] oedd y chwarel go iawn gyntaf agorwyd ar fynydd [[Mynydd Garnfor|Garnfor]] yn [[Trefor|Nhrefor]], er bod y Gwaith Setiau (''setts'') cyntaf wedi bod yn weithredol ar ben yr allt-môr is-law ers 1844 yn yr [[Hen Ffolt]].  
'''Chwarel Craig y Farchas''' oedd y chwarel go iawn gyntaf agorwyd ar fynydd [[Mynydd Garnfor|Garnfor]] yn [[Trefor|Nhrefor]], er bod y Gwaith Setiau (''setts'') cyntaf wedi bod yn weithredol ar ben yr allt-môr is-law ers 1844 yn yr [[Hen Ffolt]].  

Erbyn 1854 roedd y cerrig rhyddion (cerrig tir) a gloddid yn Hen Ffolt y Gorllwyn wedi eu dihysbyddu bron yn llwyr. Rhaid, felly, oedd edrych i'r mynydd ei hun am ffynonellau newydd o'r garreg ithfaen. Craig y Farchas uwchben fu'r dewis amlwg, ac ar Galan Mai 1854 llofnodwyd, ar ran y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] (''The Welsh Granite Company''), brydles newydd 21 mlynedd ac agor chwarel newydd o ddwy bonc rhyw 90 metr uwchlaw lefel y môr. Hon oedd Chwarel Craig y Farchas oedd, ar un wedd, yn estyniad i Waith Setiau'r Hen Ffolt is-law. NID hon oedd [[Chwarel yr Eifl]] a ddaeth i fod rhyw 12-13 mlynedd yn ddiweddarach, sef y chwarel y gwyddom ni amdani ac a welir ar y mynydd heddiw.

[[Categori:Chwareli Ithfaen]]
[[Categori:Chwareli Ithfaen]]

Fersiwn yn ôl 09:22, 16 Chwefror 2020

Chwarel Craig y Farchas oedd y chwarel go iawn gyntaf agorwyd ar fynydd Garnfor yn Nhrefor, er bod y Gwaith Setiau (setts) cyntaf wedi bod yn weithredol ar ben yr allt-môr is-law ers 1844 yn yr Hen Ffolt.

Erbyn 1854 roedd y cerrig rhyddion (cerrig tir) a gloddid yn Hen Ffolt y Gorllwyn wedi eu dihysbyddu bron yn llwyr. Rhaid, felly, oedd edrych i'r mynydd ei hun am ffynonellau newydd o'r garreg ithfaen. Craig y Farchas uwchben fu'r dewis amlwg, ac ar Galan Mai 1854 llofnodwyd, ar ran y Cwmni Ithfaen Cymreig (The Welsh Granite Company), brydles newydd 21 mlynedd ac agor chwarel newydd o ddwy bonc rhyw 90 metr uwchlaw lefel y môr. Hon oedd Chwarel Craig y Farchas oedd, ar un wedd, yn estyniad i Waith Setiau'r Hen Ffolt is-law. NID hon oedd Chwarel yr Eifl a ddaeth i fod rhyw 12-13 mlynedd yn ddiweddarach, sef y chwarel y gwyddom ni amdani ac a welir ar y mynydd heddiw.