Sam Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 24: Llinell 24:


[[Categori:Cantorion]]
[[Categori:Cantorion]]
[[Caategori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Crefftwyr]]
[[Categori:Crefftwyr]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 15:52, 10 Chwefror 2020

Saer coed oedd Samuel Roberts yn gweithio yn Chwarel yr Eifl, Trefor.

Fe'i ganwyd ym 1861 yn Llanrwst a daeth i Drefor o Lanfairfechan. Ym 1880 priododd ag Elizabeth Williams, athrwes yn Ysgol Trefor, a chwaer John Edward Williams, prifathro cynta'r ysgol ym 1878. Roedd Sam Roberts yn aelod selog o Eglwys San Siôr, Trefor ac yn un o'r rheiny a fu'n amlwg yn y symudiad i adeiladu'r eglwys yn y cyfnod 1879-81.

Roedd yn denorydd o gryn fri pan oedd yn ifanc a chanai'n rheolaidd mewn cyngherddau. Yn ogystal, roedd yn fardd pur dda ac yn gynganeddwr medrus. Un o'i gyfeillion pennaf yn Nhrefor oedd Henry T. Jones, 2 Farren Street, ac roedd y ddau yn aelodau blaenllaw o'r Fyddin Ddirwestol. Bu farw Henry'n ŵr ifanc yn Rhagfyr 1888, a chyfansoddodd Sam Roberts dri englyn er cof amdano.


Ei daro gadd Harri dirion - ow, sydyn
       Ymosodiad creulon;
   Dwyn ymaith ieuanc, llanc llon,
   O'r golwg, braw i'r galon.
Yn wastad ffyddlon ddirwestwr, - selog
       Dros hawliau'r gwrthodwr;
    Y cyntaf oedd fel cantwr
    I yrru'n dân - rin y dŵr.
Yn y côr fel byddai'n canu, - arwydd
      Gwna'i orau er dysgu;
   I uwch man gyda'i gân gu;
   E' groesodd at gôr Iesu.

Cyn diwedd y ganrif fe ymfudodd Samuel Roberts, fel llawer iawn o'i gyd-weithwyr, i America.