William Jones, Llwy-pric: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarelwr oedd William Jones oedd hefyd yn dyddynwr yn Llwy-pric, [[Trefor]], ar lethrau gogleddol mynyddoedd [[Yr Eif|yr Eifl]]. Roedd ef yn un o weithwyr cynta'r chwarel ganol y 19eg ganrif.
Chwarelwr oedd William Jones oedd hefyd yn dyddynwr yn Llwy-pric, [[Trefor]], ar lethrau gogleddol mynyddoedd [[Yr Eifl|yr Eifl]]. Roedd ef yn un o weithwyr cynta'r chwarel ganol y 19eg ganrif.


Fe'i ganwyd yn Llangian, Llŷn, ym 1799 a daeth i fyw i Drefor (''Hendre'' bryd hynny) pan briododd â Catherine Jones o [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]] yn Arfon.
Fe'i ganwyd yn Llangian, Llŷn, ym 1799 a daeth i fyw i Drefor (''Hendre'' bryd hynny) pan briododd â Catherine Jones o [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]] yn Arfon.

Fersiwn yn ôl 16:46, 10 Chwefror 2020

Chwarelwr oedd William Jones oedd hefyd yn dyddynwr yn Llwy-pric, Trefor, ar lethrau gogleddol mynyddoedd yr Eifl. Roedd ef yn un o weithwyr cynta'r chwarel ganol y 19eg ganrif.

Fe'i ganwyd yn Llangian, Llŷn, ym 1799 a daeth i fyw i Drefor (Hendre bryd hynny) pan briododd â Catherine Jones o Glynnog Fawr yn Arfon.

Cyfansoddodd nifer o gerddi, ac yn arbennig emynau, ond hyd y gwyddom dau bennill yn unig sydd wedi goroesi. Fe'u ceir yn Atgofion (heb eu cyhoeddi) Hugh Williams, Tai Newyddion, Trefor, mab Hugh Williams, Cwm (sydd am y terfyn â Llwy-pric). Dywedir y byddai gwraig H.W. Cwm "yn eu swnio'n aml".

Pennill 1
Dwy fflam ar ben Calfaria
Gwrddasant yno 'nghyd - 
Flam cariad at bechadur,
Fflam goch o ddwyfol fyd.
A'r mwg yn mynd i fyny
Nes cyrraedd hyd y nen,
A'r Iesu rhwng y ddwyfflam
Yn marw ar y pren.
Pennill 2
Cofio 'rwyf yr awr ryfeddol,
Awr wirfoddol oedd i fod,
Awr a nodwyd cyn bod Eden,
Awr a'i diben wedi dod.
Awr wynebu ar un aberth,
Awr y Duw i wirio'i nerth.
Hen awr annwyl prynu cariad,
Awr y gwaed, pwy ŵyr ei werth ?