John Huws (Bardd y Gwrych): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:


  ''Milgi main bolwyn brith''
  ''Milgi main bolwyn brith''
''Hir ei gefn a main ei wrych.''
''Hir ei gefn a main ei wrych.''


Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr ''Beirdd Gwerin Eifionydd'' :
Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr ''Beirdd Gwerin Eifionydd'' :
Llinell 15: Llinell 15:


  ''Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,''
  ''Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,''
  ''Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...''
''Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...''


Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs):
Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs):


  ''Pe cawn i wn dau faril''
  ''Pe cawn i wn dau faril''
''A bwledi mawr o swêj,''
''A bwledi mawr o swêj,''
''Mi saethwn Ellis Nanney''
''Mi saethwn Ellis Nanney''
''I lawr o ben y stêj!''  
''I lawr o ben y stêj!''  


Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Aelhaearn Sant, Llanaelhaearn]].
Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn]].


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Crefftwyr]]
[[Categori:Crefftwyr]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]

Fersiwn yn ôl 14:41, 10 Chwefror 2020

Fel yr awgryma "Bardd y Gwyrch", enw barddol John (Siôn) Hughes (1808-1904), bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn Llanaelhaearn y trigai.

Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, William John Hughes, Siop Goch, Trefor (Manchester House wedi hynny) (1846-93).

Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Capel y Babell, Llanaelhaearn.

Milgi main bolwyn brith
Hir ei gefn a main ei wrych.

Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr Beirdd Gwerin Eifionydd :

Os am weled Siôn yn ei ogoniant, [yna] mewn Cwrdd Cystadleuol neu ar y llwyfan gwleidyddol amdani. Mae ei ymfflamychiadau yn y naill a'r llall yn anfarwol, ac yn lleng ar dafod yr oror hyd y dydd hwn.

Gwas ffarm yn dod ag esgidiau i Siôn i'w trwsio, gan ei siarsio i wneud y peth rhataf posib iddynt. Roedd yr esgidiau yn drybola o faw. Meddai'r crydd :

Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,
Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...

Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs):

Pe cawn i wn dau faril
A bwledi mawr o swêj,
Mi saethwn Ellis Nanney
I lawr o ben y stêj! 

Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn.