Cors-y-ddalfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: ]] | [[Categori:Daearyddoiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Manganîs]] |
Fersiwn yn ôl 10:38, 3 Chwefror 2020
Mae Cors-y-ddalfa yn rhan o dir agored tua 310 metr uwchben lefel y môr ym mhen uchaf Cwmgwara, Clynnog Fawr. Mae'r Afon Hen yn llifo o'r gors i lawr Cwmgwara a thrwy pentref Gurn Goch. Mae'n ardal gwbl anghysbell ond ceir yn ei ymyl hen waith manganîs Cors-y-ddalfa, na wyddys fawr am ei hanes. Prin bod y gwaith wedi bod yn fwy na chloddfa gychwynnol i ganfod y mwyn.
Mae olion hen gwt crwn o gyfnod cynhanesyddol i'w gweld yno.[1] Mae'r map Ordnans hefyd yn dangos corlan gron ar gyfer defaid, ac mae'n bosibl mai hon sydd yn rhoi ei enw i'r lle, gan fod "dalfa" yn air arall am loc neu gorlan.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.53