Tudur Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Yn ailgyfeirio at Tydur Goch ap Grono
Llinell 1: Llinell 1:
Trigai '''Tudur Goch ap Goronwy''' ym [[Plas Nantlle]], a fo oedd penteulu y llinach a ddaeth (yn honedig) o [[Cilmin Droed-ddu]] ac, yn ôl yr achresi, yn or-or-wyr i Ystrwyth ab Ednowain, prif glerc Llywelyn Fawr. Priododd â Morfudd ferch Howel ferch Iorwerth Fychan, yntau hefyd o linach Cilmin, trwy [[Morgeneu Ynad]]; daeth honno â thiroedd Glynllifon iddo. Roedd yn dad i [[Hwlcyn Llwyd]], y cyntaf o'r teulu y gwyddys i sicrwydd i fyw yng [[Glynllifon|Nglynllifon]]. Roedd ganddo ddau fab iau hefyd, sef Gruffydd, sylfaenydd teulu [[Cwellyn]] a William.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 172</ref>
#ail-cyfeirio [[Tydur Goch ap Grono]]
 
Roedd teulu Tudur Goch yn gyson gefnogol i goron Lloegr, ac yn sicr roedd Tudur yn was ffyddlon i'r Tywysog Du, Edward o Woodstock (1330-76), mab y brenin Edward III. Roedd tiroedd yn [[Nantlle]] wedi eu cipio gan goron Lloegr ym 1284 fel tiroedd brenhinol, gan yr oeddynt gynt yn eiddo i dyuwysogion Gwynedd. I gydnabod ei wasanaeth milwrol yn Ffrainc, roddodd y Tywysog Du chwe chyfer o dir yno i Tudur,<ref>W. Gilbert Williams, ''Glyniaid Glynllifon'' (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref> ac fe gododd hwnnw gartref iddo fo ei hun, sef Plas Nantlle.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.26</ref>
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]

Fersiwn yn ôl 18:16, 28 Ionawr 2020

Ailgyfeiriad i: