Mast Nebo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Ffynnonellau== | ==Ffynnonellau== | ||
* Wikipedia. [[https://en.wikipedia.org/wiki/Arfon_transmitting_station]]. Cyrchwyd 15.11.2017 | * Wikipedia. [[https://en.wikipedia.org/wiki/Arfon_transmitting_station]]. Cyrchwyd 15.11.2017 | ||
* Cymdeithas | * Cymdeithas yr Iaith, ''S4C - Pwy dalodd amdani?'' (1985) | ||
[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori: Daearyddiaeth ddynol]] | ||
[[Categori:Diwylliant]] | [[Categori:Diwylliant]] |
Fersiwn yn ôl 20:25, 15 Tachwedd 2017
Adeiladwyd Mast Nebo ym 1962 i wella derbyniad teledu annibynnol yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Saif ar ben bryn i'r de o bentrefi Nebo a Nasareth ym mhlwyf Llanllyfni. Erbyn hyn mae'n drosglwyddo rhaglenni teledu a radio digidol a radio FM nifer helaeth o ddarparwyr; hefyd mae'n rhan o rwydwaith trosglwyddo'r gwasanaethau brys ac mae sawl gwmni ffonau symudol yn defnyddio'r mast hefyd. Mae'r mast yn 317.4 m (1,041 troedfedd) o uchder, sy'n golygu mai dyma'r strwythur dynol uchaf yng Nghymru (a'r chweched uchaf trwy Brydain).
Bu'r safle'n ffocws ar gyfer nifer o brotestiadau gan Gymdeithas yr Iaith - yn 1972 a 1973 pan ddringodd nifer o'i haelodau'r mast ei hun fel rhan o'r ymgyrch hir a chwerw i sicrhau sianel deledu Gymraeg; ac yn fwy diweddar yn 2011 pan ddringodd Bethan Williams a Robin Cragg i ben yr orsaf ei hun fel rhan o ymgyrch am well ddarpariaeth ddarlledu yn y Gymraeg.
Ffynnonellau
- Wikipedia. [[1]]. Cyrchwyd 15.11.2017
- Cymdeithas yr Iaith, S4C - Pwy dalodd amdani? (1985)