Mast Nebo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
==Ffynnonellau==
==Ffynnonellau==


{{cyfeiriadau}}


[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Diwylliant]]
[[Categori:Diwylliant]]

Fersiwn yn ôl 13:56, 15 Tachwedd 2017

Adeiladwyd Mast Nebo ym 1962 i wella derbyniad teledu annibynnol yng ngogledd-orllewin Cymru.[1] Saif ar ben bryn i'r de o bentrefi Nebo a Nasareth ym mhlwyf Llanllyfni. Erbyn hyn mae'n drosglwyddo rhaglenni teledu a radio digidol a radio FM nifer helaeth o ddarparwyr; hefyd mae'n rhan o rwydwaith trosglwyddo'r gwasanaethau brys ac mae sawl gwmni ffonau symudol yn defnyddio'r mast hefyd. Mae'r mast yn 317.4 m (1,041 troedfedd) o uchder, sy'n golygu mai dyma'r strwythur dynol uchaf yng Nghymru (a'r chweched uchaf trwy Brydain).

Bu'r safle'n ffocws ar gyfer nifer o brotestiadau gan Gymdeithas yr Iaith - yn 1972 a 1973 pan ddringodd nifer o'i haelodau'r mast ei hun fel rhan o'r ymgyrch hir a chwerw i sicrhau sianel deledu Gymraeg;[2] ac yn fwy diweddar yn 2011 pan ddringodd Bethan Williams a Robin Crag i ben yr orsaf ei hun fel rhan o ymgyrch am well ddarpariaeth ddarlledu yn y Gymraeg.[3]

Ffynnonellau