John Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Ni ddylid cymysgu rhyngddo fo a'i gymydog, John Glynne o'r [[Plasnewydd, Llandwrog]] a farwodd ym 1681.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1681-47</ref>
Ni ddylid cymysgu rhyngddo fo a'i gymydog, John Glynne o'r [[Plasnewydd, Llandwrog]] a farwodd ym 1681.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1681-47</ref>


{{eginyn}}
 


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 16:01, 17 Ionawr 2020

Ganwyd John Glynn (tua 1644-1685), yr olaf o sgweiriaid Ystad Glynllifon i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig fab i Thomas Glynn (AS a botanegydd) a'i wraig Ellen o gwmpas y flwyddyn 1644, a chafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 ac o dan warchodaeth ei ewyrth, Edmund Glynn. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed. Roedd ganddo un chwaer, Catherine Glynn, a briododd Richard Bulkeley o Borthamel, ac wedyn ar ôl ei farwolaeth ef, Rowland Wynn o'r Pengwern, Llanwnda.

Chwareuodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9, and yn ynad heddwch o 1670 ymlaen. Priododd Elizabeth Owen, merch Syr Hugh Owen, barwnig cyntaf Orielton, Sir Benfro (bu fawr 1670), AS dros Sir Benfro, 1626-60, oedd hefyd â thiroedd yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Cawsant ddwy ferch (Ellen a Frances) ond dim mab, ac felly pasiodd etifeddiaeth ystad Glynllifon i'r hynaf, Ellen, a fu farw 1711 yn 34 oed; priododd Frances Thomas Wynn, Boduan, ond gan na phriododd Ellen, yn y diwedd fe unwyd ystadoedd Glynllifon a Boduan. O hynny ymlaen a hyd heddiw, Wynn fyddai cyfenw teulu Glynllifon.[1] Nid hon oedd yr Ellen Glynne a sefydlodd elusendai Llandwrog, ond Ellen Glynne o Elernion, perthynas â theulu Glynllifon o bell, a fu farw yn 1727.

Bu farw ym 1685 ac mae ei ewyllys ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe etifeddodd Ellen Glynn ei ferch hynaf ei holl diroedd yn siroedd Caernarfon a Môn, heblaw am Gwm Ceiliog, Cae'r Gors, Bronmiod, Bodelfarch, Tyddyn y Coch, Tyddyn y felin, Y Ffridd Wen, Tyddyn y Llan a Melin yr Ynys Goch ar ochr ddeheuol Mynydd Bwlch Mawr a oedd i'w gwerthu i dalu unrhyw ddyledion a chostau, ac unrhyw swm o arian hyd at £1500 oedd yn weddill i Frances. Gadawodd £10 i'w chwaer Catherine a oedd, y pryd hynny, yn dal yn bnriod â Richard Bulkeley, Porthamel. Gadawodd deg swllt i Eglwys Gadeiriol Bangor ac ugain swllt (sef punt) yr un i eglwysi Llanaelhaearn a Llandwrog. Ymysg y tystion oedd ei cefnder, George Twisleton o'r Lleuar Fawr.[2]

Ni ddylid cymysgu rhyngddo fo a'i gymydog, John Glynne o'r Plasnewydd, Llandwrog a farwodd ym 1681.[3]


Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1685-45
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B1681-47