Nancall (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Nancall''' oedd enw trefgordd eglwysig a oedd yn eiddo eglwysig ers dyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe roddwyd i Abaty Aber...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categori: Ffiniau]]
[[Categori: Israniadau gwladol]]
[[Categori:Trefgorddi]]
[[Categori:Trefgorddi]]

Fersiwn yn ôl 18:19, 5 Rhagfyr 2019

Nancall oedd enw trefgordd eglwysig a oedd yn eiddo eglwysig ers dyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe roddwyd i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr tua 1200. Y mae'r Dr Colin Gresham mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[1] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog, penderfynwyd ei gynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.

Ffiniau Nancall oedd yr Afon Call i'r gogledd a'r Afon Faig i'r dwyrain a'r de.

Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â ffiniau fferm Tai Duon. Yr un cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed, a gafodd prydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, parchwyd y brydles am weddill ei thymor.

Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahan hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan yr Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
  2. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), tt.301-3