Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Rhoddir yr enw '''Brad y Llyfrau Gleision''' i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 i anfon arolygwyr (di-Gymraeg!) o amgylch Cymru i adrodd ar gyflwr...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Rhoddir yr enw '''Brad y Llyfrau Gleision''' i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 | Rhoddir yr enw '''Brad y Llyfrau Gleision''' i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 o anfon arolygwyr (di-Gymraeg!) o amgylch Cymru i adrodd ar gyflwr addysg yn y wlad gan nodi manylion y ddarpariaeth ym mhob plwyf yng Nghymru. Gan fod yr arolygwyr wedi mynd y tu allan i'w brîff gwreiddiol a cheisio cysylltu anfoesoldeb tybiedig a thlodi â diffyg ymlyniad at yr Eglwys Sefydledig a diffygion yn y system addysg, teimlai'r Cymry, gyda chryn gyfiawnhad, eu bod yn cael eu sarhau a'u bychanu. Roedd arddull ac agwedd dilornus yr arolygwyr yn cryfhau hynny. Bu cythrwfl a beirniadu hallt gan Gymry o bob radd. | ||
Sonnid am yr adroddiad fel y llyfrau gleision gan fod | Sonnid am yr adroddiad fel y llyfrau gleision gan fod yna dair cyfrol wedi eu rhwymo mewn cloriau papur glas; arferid i adroddiadau swyddogol y Llywodraeth ar y pryd, ar ba fater bynnag y bônt, gael eu cyhoeddi gyda chloriau papur glas tywyll. Cyhoeddwyd cannoedd o "lyfrau gleision" ond mae'r enw wedi glynu'n benodol at yr adroddiad hwn. | ||
Serch hyn, mae gwerth i'r adroddiad os gellir edrych heibio i'r sarhad a'r gwawd a chanolbwyntio ar y ffeithiau moel yr adroddir amdanynt megis nifer y disgyblion. Yn yr atodiad, mae paragraff neu fwy am bob plwyf yng Nghymru. Canolbwyntir yma ar yr hyn sydd gan y llyfrau gleision i'w ddweud am bum plwyf [[Uwchgwyrfai]]. | Serch hyn, mae gwerth i'r adroddiad os gellir edrych heibio i'r sarhad a'r gwawd a chanolbwyntio ar y ffeithiau moel yr adroddir amdanynt megis nifer y disgyblion. Yn yr atodiad, mae paragraff neu fwy am bob plwyf yng Nghymru. Canolbwyntir yma ar yr hyn sydd gan y llyfrau gleision i'w ddweud am bum plwyf [[Uwchgwyrfai]]. |
Fersiwn yn ôl 22:47, 19 Hydref 2019
Rhoddir yr enw Brad y Llyfrau Gleision i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 o anfon arolygwyr (di-Gymraeg!) o amgylch Cymru i adrodd ar gyflwr addysg yn y wlad gan nodi manylion y ddarpariaeth ym mhob plwyf yng Nghymru. Gan fod yr arolygwyr wedi mynd y tu allan i'w brîff gwreiddiol a cheisio cysylltu anfoesoldeb tybiedig a thlodi â diffyg ymlyniad at yr Eglwys Sefydledig a diffygion yn y system addysg, teimlai'r Cymry, gyda chryn gyfiawnhad, eu bod yn cael eu sarhau a'u bychanu. Roedd arddull ac agwedd dilornus yr arolygwyr yn cryfhau hynny. Bu cythrwfl a beirniadu hallt gan Gymry o bob radd.
Sonnid am yr adroddiad fel y llyfrau gleision gan fod yna dair cyfrol wedi eu rhwymo mewn cloriau papur glas; arferid i adroddiadau swyddogol y Llywodraeth ar y pryd, ar ba fater bynnag y bônt, gael eu cyhoeddi gyda chloriau papur glas tywyll. Cyhoeddwyd cannoedd o "lyfrau gleision" ond mae'r enw wedi glynu'n benodol at yr adroddiad hwn.
Serch hyn, mae gwerth i'r adroddiad os gellir edrych heibio i'r sarhad a'r gwawd a chanolbwyntio ar y ffeithiau moel yr adroddir amdanynt megis nifer y disgyblion. Yn yr atodiad, mae paragraff neu fwy am bob plwyf yng Nghymru. Canolbwyntir yma ar yr hyn sydd gan y llyfrau gleision i'w ddweud am bum plwyf Uwchgwyrfai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma