Syr William Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Syr William Glynn''' (-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfo...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:


Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597.
Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597.
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gwleidyddion]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Fersiwn yn ôl 19:03, 14 Hydref 2019

Syr William Glynn (-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Chlynnog Fawr.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)[1] Cawsant blant niferus, meibion Thomas Glynn, Sarjent John Glynne, Richard, William a Threfor Glynn (Na wyddys fawr amdanynt), Edmund Glynn, a merched Grace, a briododd Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd Hugh Meredydd, Mynachdy Gwyn.[2]

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.125
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3