Cwm (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Is-raniadau gweinyddol]]
[[Categori:Is-raniadau gwladol]]

Fersiwn yn ôl 15:41, 9 Medi 2019

Rhoddwyd trefgordd Cwm yn ardal mynyddoedd Gurn Ddu a Bwlch Mawr i fynaich Sistersaidd Aberconwy gan Llywelyn ab Iorwerth yn y 13g. Roedd y mynaich hyn hefyd yn berchen ar lluest neu ffermdir Rhedynog Felen yn nhrefgordd Dinlle. Parhaodd yr ardal ym meddiant y Sistersiaid hyd nes i'r mynachlogydd gael eu diddymu yn y 1530au.

Saif ffermdy Cwm heddiw ar ochr y ffordd uchaf ar hyd llethr ddwyreiniol Bwlch Mawr, nid nepell o Hengwm a Monachdy Gwyn, ond yr oedd ffiniau'r hen drefgordd yn fwy helaeth o lawer. Mae'n bosibl iawn fod Clawdd Seri, hen glawdd ffin sy'n rhedeg dros ardal o'r mynydd a elwir yn Clipiau yn ffin tiroedd yr abaty.

Mae cryn nifer o olion o amaethu a thai fferm cyfnod y Canol Oesoedd hwyr i'w gweld, yn arbennig ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr a llethrau Moel Bronmiod.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. David M. Brown a Stephen Hughes, (gol.), The Archaeology of the Welsh Uplands (Aberystwyth, 2003), t.77 (Katherine Geary, Moel Bronymiod)