Manon Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gari (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gari (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis ''Pobol y Cwm'' a chyfres ''Y Palmant Aur''. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.
Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis ''Pobol y Cwm'' a chyfres ''Y Palmant Aur''. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.


Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion. Mae ei chysylltiad â [[Uwchgwyrfai]] yn hanu o'r ffaith y bu hi â'i gŵr cyntaf, [[Richard Morris Jones]] y darlledwr, fyw am gyfnod sylweddol yn nhŷ [[Dol Meredydd]], plwyf [[Llandwrog]].
Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion. Mae ei chysylltiad â [[Uwchgwyrfai]] yn hanu o'r ffaith y bu hi â'i gŵr cyntaf, [[Richard Morris Jones]] y darlledwr, fyw am gyfnod sylweddol yn nhŷ [[Dôl Meredydd]], plwyf [[Llandwrog]].


Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda ''Neb Ond Ni''; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda ''Neb Ond Ni''; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.

Fersiwn yn ôl 09:13, 19 Awst 2019

Llenor yw Manon Rhys (ganwyd 1948) sydd yn olygydd, yn sgriptwraig deledu, ac yn awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch i'r athro, y bardd, a'r dramodydd James Kitchener Davies.

Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci, ac Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu i Brestatyn a mynychodd Ysgol Glan Clwyd Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth.

Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.

Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion. Mae ei chysylltiad â Uwchgwyrfai yn hanu o'r ffaith y bu hi â'i gŵr cyntaf, Richard Morris Jones y darlledwr, fyw am gyfnod sylweddol yn nhŷ Dôl Meredydd, plwyf Llandwrog.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda Neb Ond Ni; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.[1]


Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wicipedia am Manon Rhys, cyrchwyd 19.8.2019